Cyfnod clo arall i Gymru gyfan o ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cyfnod clo llym yn dod i rym drwy Gymru gyfan am ychydig dros bythefnos o ddydd Gwener tan ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Daw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i atal y cynnydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi awgrymu y byddai cyfnod clo "llym a byr" yn gallu "arafu'r feirws erbyn y Nadolig".

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwrnod lle y gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 626 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru, gydag un farwolaeth yn rhagor.

Mae cyfanswm y marwolaethau bellach yn 1,712, a chyfanswm yr achosion yn 36,253.

Roedd cyfyngiadau llymach eisoes ar waith mewn 15 o'r awdurdodau lleol, yn ogystal ag yn Llanelli a Bangor.

Beth fydd y rheolau?

Bydd y mesurau cenedlaethol diweddaraf - yn dechrau am 18:00 ar 23 Hydref - yn debyg i'r rhai yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth ac Ebrill.

  • Mae hynny'n golygu y bydd rhaid i bobl aros adref, ond fe fydd cyfnod dyddiol o ymarfer corff yn cael ei ganiatáu.

  • Bydd rhaid i bobl sy'n medru gweithio o adref wneud hynny.

  • Bydd siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn cau. Bydd tai bwyta a thafarndai yn gorfod cau heblaw llefydd bwyd têc-awê.

  • Bydd gwasanaethau sy'n galw am gyswllt agos - megis llefydd torri gwallt neu barlwr harddwch - yn cau, felly hefyd addoldai, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

  • Ni fydd pobl yn cael ymgynnull - y tu mewn na thu allan - gyda phobl o aelwydydd eraill.

  • Bydd prifysgolion, colegau a pharciau yn parhau i gael agor.

  • Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ailagor wedi gwyliau hanner tymor, a bydd ysgolion uwchradd yn ailagor i ddisgyblion blynyddoedd 7-8. Bydd blynyddoedd eraill yn parhau gydag addysg adref am wythnos ychwanegol.

'Calon drom'

Pwysleisiodd Mr Drakeford na fydd buddion y cyfnod clo byr yn cael eu gweld erbyn 9 Tachwedd. Dywedodd y byddai'r buddion yn "dod yn amlwg yn ystod yr wythnosau fydd yn dilyn hynny".

Ychwanegodd ei fod yn gwneud y cyhoeddiad "gyda chalon drom".

Dywedodd ei fod yn sylweddoli bod "pawb wedi blino gyda choronafeirws a'r llwyth o reolau y mae'n rhaid i ni gyd fyw gyda nhw".

Dywedodd: "Gyda chalon drom yr wyf unwaith eto yn gofyn i bawb i aros adre a busnesau i gau.

"Ry'n ni gyd am weld diwedd i'r pandemig yma a chael ein bywydau yn ôl. Yn anffodus does dim brechlyn ar gael eto a fyddai'n caniatáu i ni wneud hynny.

"Dyma ein gobaith gorau o gael rheolaeth o'r feirws ac osgoi cyfnod clo cenedlaethol llawer hirach a fyddai'n llawer mwy niweidiol.

"Mae gennym gyfle byr iawn i weithredu."

Cymorth i fusnesau

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn gofod cau eto am dros bythefnos

Dywedodd Mark Drakeford y bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfnod clo llym, a bod cronfa gwerth £300m ar gael.

"Bydd pob busnes sy'n derbyn cefnogaeth busnesau bach yn derbyn taliad o £1,000," meddai.

"Bydd unrhyw fusnes bach neu ganolig yn y sectorau lletygarwch a hamdden yn derbyn taliad o £5,000 os oes yn rhaid iddyn nhw gau.

Dywedodd y bydd modd cael y gefnogaeth trwy gynlluniau Llywodraeth y DU, gan ychwanegu mai "dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu ariannol i ddarparu'r lefel o gefnogaeth y mae gweithwyr ei angen".

Ond mewn llythyr at Mr Drakeford, dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak bod y Trysorlys "yn anffodus, methu dod â dechrau'r estyniad i'r Cynllun Cefnogi Swyddi ymlaen o 1 Tachwedd i 23 Hydref oherwydd cyfyngiadau amserlenni Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi".

Ychwanegodd fod y cynllun achub swyddi cyntaf yn dal mewn grym tan 31 Hydref, a bod hyblygrwydd y system honno'n golygu bod cyflogwyr sy'n gorfod cau yn gallu rhoi saib eto tan hynny yn achos gweithwyr fu ar ffyrlo am o leiaf dair wythnos rhwng 1 Mawrth a 30 Mehefin.

Plismona

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gofynnwyd i Mr Drakeford yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru sut fyddai'r cyfnod clo yn cael ei blismona.

Wrth ateb, pwysleisiodd bod y cyfrifoldeb ar bawb i barchu'r rheolau a ddaw i rym ddydd Gwener yn hytrach na dibynnu ar yr heddlu.

"Os fyddwn ni'n dibynnu ar yr heddlu i sicrhau fod pobl yn dilyn y rheolau yn y cyfnod yma, yna fe fydd y mesurau yn methu.

"Ry'n ni'n gofyn i bawb gydymffurfio gyda'r rheolau ac i chwarae eu rhan i sicrhau bod y mesurau yma yn llwyddo."

Dywedodd Mr Drakeford na fydd modd cynnal digwyddiadau Calan Gaeaf a thannau gwyllt yn ystod y cyfnod clo, sydd yn cael ei ddisgrifio fel 'toriad tân' - neu fire break.

Ond fe ychwanegodd y bydd digwyddiadau Sul y Cofio ar 8 Tachwedd, ychydig ddyddiau cyn diwedd y cyfnod clo byr, yn cael caniatâd i barhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i bawb ddilyn y rheolau sylfaenol, medd Mr Drakeford, fel cadw pellter cymdeithasol

Dywedodd: "Rhaid i ni fod yn hollol glir gyda phobl; y rheolau, ni fydd y gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru yn caniatáu cyfarfodydd ar gyfer coelcerth nac ar gyfer Calan Gaeaf.

"Yn y cyfnod rhyfeddol hwn, mae'n rhaid i ni i gyd wneud popeth y gallwn ei wneud, oherwydd bydd pob cam bach a gymerwn i weithio gyda'n gilydd yn gwneud a gwahaniaeth.

Ymateb

Dywedodd Paul Davies arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru: "Yn anffodus, mae'r Prif Weinidog wedi methu â chael cefnogaeth y cyhoedd i'r ail gyfnod clo hwn ledled Cymru, gan fethu â bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â'r dystiolaeth i gyfiawnhau'r cloi hwn a beth fydd yn ei olygu ar gyfer y dyfodol.

"Nid egwyl o bythefnos yw hwn i ddatrys y pandemig, mae'n debygol y byddwn yn gweld cloeon yn rheolaidd dros weddill y flwyddyn.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir pa gamau y maent yn eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i atal mwy o gloi yng Nghymru fydd yn cael effaith sylweddol ar fywydau a bywoliaeth pobl."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Fyddai'n od iawn pe bai ni dim yn cefnogi'r cyfnod clo ma. Ond rydan ni agen y data cliria posib.

"Fedrwn ni ddim mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, ma'r boen yn ormod i hynny. Sut y'ch chi'n sicrhau bod chi ddim yn dod nol i'r lle yma mewn rhai wythnosau?"