Agor y Gyfnewidfa Lo fel gwesty am yr eildro
- Cyhoeddwyd
Mae adeilad y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn agor ei drysau y penwythnos yma, gydag ymgais o'r newydd i lansio'r safle hanesyddol fel gwesty.
Ar ôl ei ailwampio ar gost o £40m, fe ailagorodd y safle fel Gwesty'r Exchange yn 2017.
Ond daeth hynny i ben pan aeth perchnogion yr adeilad, Signature Living Coal Exchange, i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mai.
Mae prif gredydwr yr adeilad a chriw o fuddsoddwyr yn ei ail-lansio fel Gwesty'r Coal Exchange.
Cyn-gynghorydd a dyn busnes lleol, Ashley Govier, sydd wedi ymgymryd â'r cytundeb rheoli ar gyfer y gwesty.
"Rydyn ni wir wedi bod yn ceisio cael yr adeilad yn barod i'w agor," meddai.
"Yn amlwg roedd cryn dipyn o waith i'w wneud oherwydd bod yr adeilad yn aros yn ei unfan am bedwar i bum mis o ganlyniad i'r cyfnod clo cenedlaethol ac yna i gael yr adeilad yn ddiogel o ran Covid - dyna mewn gwirionedd ydy'r hyn y mae'r tîm wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf."
Dywed Mr Govier fod £500,000 eisoes wedi'i wario ar waith trydanol, nwy a dŵr a rhoddodd Cyngor Caerdydd drwydded i'r lleoliad fis diwethaf er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai trigolion lleol.
Dim ond rhan flaen yr adeilad, sy'n cynnwys yr hen neuadd fasnachu, y bwyty, y fynedfa a 65 ystafell wely, fydd ar gael i'r datblygwr newydd.
Ar hyn o bryd mae'r adeilad yn nwylo'r Derbynnydd, sydd bellach wedi rhyddhau'r rhannau hynny o'r adeilad i ganiatáu i'r gwesty newydd fasnachu.
Cododd y gweithredwr blaenorol Signature Living arian gan fwy na 100 o fuddsoddwyr 'ystafell wely unigol' o bob cwr o'r byd.
Fe wnaethant brynu ystafelloedd am filoedd o bunnoedd er mwyn eu prydlesu yn ôl i'r gwesty a derbyn taliad blynyddol.
Ni chafodd llawer o'r ystafelloedd hynny eu hadeiladu a dywed y buddsoddwyr eu bod wedi methu â chael yr enillion oedd wedi eu haddo.
'Covid yw'r ffactor ansicr'
Roedd Gerald Woosnam o Lanidloes yn un ohonyn nhw.
Buddsoddodd mewn ystafell yn y Gyfnewidfa yn 2017 gyda'i bartner busnes sy'n byw yng Nghaerdydd.
"Roedd yn adeilad mor ddiffaith nes bod hwn yn edrych yn ffordd dda o'i gael yn ôl ar ei draed eto - felly fe wnaethon ni brynu un o'r ystafelloedd gwely fel buddsoddiad," meddai.
"Cawsom ein tywys o gwmpas gan Lawrence Kenwright [o Signature Living Coal Exchange Ltd] pan roedd yn safle adeiladu i raddau helaeth ac roedd yn westy hyfryd pan ailagorodd gyda bwyty gwych."
Ond nid yw Mr Woosnam yn gwybod os yw ei ystafell wedi'i chwblhau ai peidio.
Mae'r Derbynnydd bellach yn gweithio gyda'r buddsoddwyr ystafell wely i geisio darganfod y ffordd orau o ddatrys eu sefyllfa.
Fe amcangyfrifir bod angen tua £8m i gwblhau gweddill y gwaith adnewyddu ond mae'n aneglur o ble y gallai'r cyllid hwnnw ddod.
"Wna i ddim rhoi mwy o arian i mewn," meddai Mr Woosnam. "Yn sicr ddim. Yn yr un modd does dim pwynt dymuno i'r cyfan fethu, fel arall ni chawn ni ddim. Rydw i wir eisiau ei weld yn ffynnu."
Dim ond pobl sy'n byw yng Nghaerdydd fydd yn gallu ymweld â'r gwesty oherwydd cyfyngiadau cyfredol Covid-19 ac mae Mr Govier yn cyfaddef bod hynny'n ychwanegu at yr her.
"Rydyn ni'n mynd i roi popeth tuag at ei lwyddiant, fe gawn ni weld sut mae hyn yn mynd un wythnos ar y tro, y ffactor ansicr yw Covid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020