Teyrngedau i chwaraewr rygbi, 16, fu farw

  • Cyhoeddwyd
Digwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i dafarn y Blaina Wharf ychydig cyn 14:00.Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i dafarn y Blaina Wharf ychydig cyn 14:00 ddydd Gwener

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i chwaraewr rygbi ifanc a fu farw wrth seiclo adref o'r coleg.

Cafodd Joshua Fletcher, 16, ei daro gan gar ar Ffordd Ddosbarthu'r De yng Nghasnewydd ddydd Gwener.

Mae dyn 28 oed o ardal Rhondda Cynon Taf wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae'n parhau yn y ddalfa.

Roedd Joshua newydd ddechrau cwrs yn astudio mecaneg yng Ngholeg Nash, Casnewydd, pan oedd yn beicio adref o'r coleg brynhawn Gwener.

Mae mwy na £8,300 wedi ei gasglu ar dudalen codi arian er cof amdano.

Chwaraeodd Joshua i'r tîm lleol Pill Harriers RFC - ac mae ei deulu'n dweud ei fod yn "wallgof am geir ac yn caru ei rygbi".

Dywedodd ei ewythr, Simon Tovey: "Roedd ganddo wên bob amser pryd bynnag y byddech chi'n ei weld, byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.

"Roedd yn fachgen hyfryd ac roedd bob amser eisiau gwneud pobl yn hapus."

Dywedodd Mr Tovey fod Joshua "yn caru ei deulu" cyn ychwanegu "mae hon yn golled enfawr i bob un ohonom".

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Pill Harriers RFC

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Pill Harriers RFC