Ymchwiliad heddlu'n parhau i farwolaeth seiclwr ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr car a gafodd ei arestio wedi gwrthdrawiad a laddodd seiclwr ifanc yng Nghasnewydd wedi cael ei ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Bu farw Joshua David Fletcher, oedd yn 16 oed ac yn byw yn y ddinas, wedi'r gwrthdrawiad â char Ford Focus llwyd ar yr A48, sef y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol, tua 14:00 ddydd Gwener 16 Hydref.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r chwaraewr rygbi ifanc oedd yn seiclo adref o'r coleg pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd gyrrwr y Ford Focus, dyn 28 oed o Rondda Cynon Taf, ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ond mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae'r llu'n parhau i ofyn am wybodaeth all helpu'u hymholiadau ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu Joshua.
Dywed y teulu mewn datganiad eu bod yn "diolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth" gan ofyn am breifatrwydd er mwyn galaru
Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig gwybodaeth neu luniau dash cam sydd heb gysylltu â nhw hyd yn hyn, gan ffonio 101 a dyfynnu'n cyfeirnod 2000377569 neu ddanfon neges ar-lein.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020