Drakeford yn dweud fod ei wraig a'i fam wedi cael Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi bod yn sôn am "ddyddiau anodd" iddo wynebu ar ôl i'w wraig a'i fam ddioddef o coronafeirws yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Mr Drakeford symud o'i gartref i adeilad yn ei ardd er mwyn cadw ei deulu'n ddiogel yn ystod y pandemig.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd mai'r amser anoddaf ar lefel bersonol oedd pan i'w wraig Clare a'i fam ddal yr haint.

Mae'r ddwy wedi gwella erbyn hyn.

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth Mr Drakeford gyhoeddi y bydd yna gyfnod clo byr yn dod i rym yng Nghymru am 18:00 dydd Gwener gan bara am 17 diwrnod.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 1,736 oedd a Covid wedi marw yng Nghymru, gyda 38,361 wedi cael prawf positif.

Wrth siarad gyda Laura Kuenssberg ar BBC Newscast, dywedodd: "Ar lefel bersonol fe wnaeth fy ngwraig a fy mam gael eu taro'n sâl gyda coronafeirws ar adeg pan nad oeddwn yn gallu byw gartref oherwydd bod y ddwy yn fregus.

"Roedd yna rai diwrnodau anodd pan oedd y ddwy yn bur sâl."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford fod gallu y gwasanaeth iechyd i ymdopi ar flaen ei feddwl

Dywedodd Mr Drakeford, sy'n 66 oed, mai ei amser caletaf fel prif weinidog oedd wrth ystyried beth i wneud pe bai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cyrraedd y capasiti llawn.

"Nôl ym mis Ebrill fe wnes i dreulio penwythnos...mewn trafodaethau gyda phobl ynglŷn â beth i wneud pe na bai yna fwy o ofal dwys ar gael, pe na bai ni â'r peiriannau anadlu oedd eu hangen a bod yn rhaid i staff meddygol wneud penderfyniadau anodd o bwy allai gael triniaeth a pwy o'n nhw methu eu trin," meddai.

"Does neb yn dod i'r math o waith rydym ni yn ei wneud yn disgwyl gwneud y math yna o benderfyniadau.

"Diolch byth yn y diwedd roedd modd osgoi'r sefyllfa yna."