Cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Prifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae 120 o swyddi staff cynorthwyol ac 80 o swyddi academaidd mewn perygl yn y brifysgol

Mae undeb staff ym Mhrifysgol Bangor wedi datgan cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth y brifysgol dros gynlluniau i dorri 200 o swyddi.

Yn gynharach ym mis Hydref fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi cynlluniau i wneud arbedion o £13m "yn dilyn cwymp mewn incwm, yn gysylltiedig yn bennaf gyda recriwtio myfyrwyr tramor".

Yn ôl undebau llafur, mae 120 o swyddi staff cynorthwyol ac 80 o swyddi academaidd mewn perygl.

Mae aelodau Undeb Prifysgol a Choleg Bangor wedi dweud y byddai'n well ganddyn nhw weld toriad cyflog dros dro i'r holl staff am gyfnod o ddwy flynedd er mwyn cyflawni'r arbedion.

Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod "ynghanol cyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd ac yn gweithio gyda'n staff i ganfod atebion i'r heriau digynsail sy'n ein hwynebu".

Barod i streicio

Mewn llythyr at Is-Ganghellor y brifysgol a chadeirydd y cyngor, dywedodd llywydd UCU Bangor, Dr Dyfrig Jones, fod yr aelodau'n barod i streicio.

"Byddwch, rwy'n siŵr, wedi gweld adroddiadau newyddion bod cangen UCU ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin heddiw wedi pleidleisio i weithredu'n ddiwydiannol," meddai.

"Mae'n gwbl bosibl y byddwn yn cael ein gorfodi i ddilyn yr un llwybr yma ym Mangor, oni bai bod newid cyfeiriad ar sylfaenol ar unwaith."

Mae Dr Jones wedi annog y brifysgol i "ymateb yn gadarnhaol" i gynigion yr undebau er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd rhai aelodau o staff Prifysgol Bangor eu swyddi'r llynedd - cyn i'r pandemig daro

Cynnig yr undeb yw y byddai'r rhai ar waelod y raddfa gyflog - sy'n ennill £20,130 - yn derbyn y toriad lleiaf o 0.5%.

Fe fyddai'r rheiny sy'n ennill fwyaf - rheolwyr â chyflogau dros £114,000 - yn derbyn y toriad mwyaf, sef 15%.

Mae'r undeb yn dweud y gallai'r "cynnig hwn ar ei ben ei hun arbed rhwng £5m a £5.4m".

Dywedodd yr undebau y bydden nhw'n fodlon "aberthu ar y cyd" er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd y byddai cyflogau yn cael eu cwtogi.

'Morâl yn anhygoel o isel'

Dywedodd yr undebau bod 87% o'u haelodau wnaeth fwrw pleidlais o blaid "mynegi diffyg hyder yn nhîm gweithredol y brifysgol".

Roedd 84% o blaid y cynllun gostwng cyflog am ddwy flynedd, ac 81% yn barod i weithredu'n ddiwydiannol er mwyn atal diswyddiadau gorfodol.

Dywedodd yr Athro Doris Merkl-Davies, aelod o bwyllgor UCU Bangor a chynrychiolydd UCU Ysgol Fusnes Bangor, fod aelodau'n barod i ymladd i arbed swyddi eu cydweithwyr.

"Mae morâl staff yn anhygoel o isel," meddai.

"Mae hyd yn oed staff mewn ysgolion heb unrhyw ddiswyddiadau, fel yr Ysgol Fusnes, yn teimlo mai dim ond modd o gadw eu swyddi dros dro fydd hyn."

Rhagor o alwadau

Mae'r undebau hefyd yn galw am:

  • Fwy o graffu gan undebau ar wybodaeth ariannol i sicrhau bod yr holl wariant sylweddol er budd staff, myfyrwyr a'r sefydliad;

  • Sicrhau bod gan yr undebau hawl i gael eu hysbysu a chael dweud eu dweud cyn gynted â phosibl ar faterion ariannol;

  • Bod seddi ar Gyngor y Brifysgol yn cael eu rhoi i undebau.

Ymateb y brifysgol

Dwedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae'r pandemig rhyngwladol wedi cael sgil effeithiau uniongyrchol ar y Brifysgol, ond mae'r sefydliad yn ymateb mewn modd gweithgar a phroffesiynol.

"Rydym ynghanol cyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd ac yn gweithio gyda'n staff i ganfod atebion i'r heriau digynsail sy'n ein hwynebu.

"Ein blaenoriaethau yw ein myfyrwyr a'n staff, a dod allan o'r sefyllfa hon yn gryfach fel un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru, yn brifysgol dan arweiniad ymchwil ar gyfer Gogledd Cymru, sy'n chwarae rhan lawn yn economi ac adferiad y rhanbarth yn dilyn Covid."