Angen i gartrefi gofal fod yn 'ddyfeisgar a thrugarog'

  • Cyhoeddwyd
LLUN TEULUFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Eirlys Jones a'i merched Iona a Lisa

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi galw ar gartrefi gofal i fod yn "ddyfeisgar ac yn drugarog" gyda theuluoedd sydd eisiau ymweld â pherthnasau yn ystod y pandemig.

Tra bod cartrefi wedi gorfod addasu i gadw trigolion yn ddiogel, mae Swyddfa'r Comisiynydd yn poeni fod sawl teulu wedi cael problemau wrth ymweld â'u hanwyliaid.

Mae cartrefi yn mynnu eu bod nhw'n gwneud pob ymdrech i helpu teuluoedd.

Mae Eirlys Jones mewn cartref gofal, ac mae ymweliadau gan ei merched Lisa a Iona wedi eu cyfyngu i un ymwelydd am hanner awr bob pythefnos.

"Maen nhw'n dweud mai dyna ganllawiau'r llywodraeth. Ond be de ni'n ddeall yw dyna ganllawiau'r llywodraeth i ymweld tu mewn ddim yn yr awyr agored," meddai Lisa Clwyd.

Mae Iona Jones yn cytuno. "Dwi yn gwybod am rywle arall lle maen nhw'n cael gweld yn wythnosol a mwy nag un aelod o'r teulu yn cael mynd.

"Se' ni ddim yn mynd mor bell a dweud bod nhw'n afresymol ond mae'n rhaid bod yna dipyn bach o hyblygrwydd yn y sefyllfa.

"Mae'r oriau maen nhw yn rhoi i ymweld yn ystod oriau gwaith, felly byddai'n chwaer i methu mynd beth bynnag.

"Ond dyle fod nid un person o deulu sy'n cael mynd - di'o ddim yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Iona Jones mae angen hyblygrwydd i deuluoedd ymweld â'u hanwyliaid

Tra bod cartrefi yn cynnig i deuluoedd gysylltu dros y we, dyw hynny ddim yn ymarferol medd Lisa Clwyd.

"Yn gorfforol mae Parkinson's yn effeithio hi, felly os dio'n alwad ffôn di hi ddim yn clywed.

"Mae hi'n tynhau i gyd, mae ei chorff hi yn ymateb a di'o ddim yn gweithio, mae'n rhwystredig iawn."

Yn ôl Bupa, sy'n rhedeg y cartref, maen nhw'n trefnu 100 o ymweliadau tu allan bob mis.

Gan fod yna waith rheoli a diheintio ynghlwm â hynny maen nhw'n dweud mai hyn a hyn o ymweliadau sy'n bosibl.

Maen nhw'n dweud mai diogelwch yw'r flaenoriaeth ac nad y'n nhw wedi cael un achos o Covid-19 yn y cartref.

Anodd yn y gaeaf

Tra'n cydnabod pwysigrwydd diogelwch mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn teimlo y gallai cartrefi wneud mwy.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl George Jones fe ddylai cartrefi gofal fod yn ddyfeisgar er mwyn sicrhau bod ymweliadau'n gallu parhau

Dywedodd George Jones o Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn: "De ni wedi cael hanes o sawl cyfeiriad o'r trafferthion mae teuluoedd yn cael i ymweld â'u hanwyliaid mewn cartrefi gofal.

"Dyma mae'r Comisiynydd yn chwilio amdano i ddweud y gwir - dipyn bach o drugaredd a phwyll ac ychydig bach o ddyfeisgarwch.

"Yn ystod yr haf fe lwyddwyd i drefnu ymweliadau (a) bod y rheiny yn digwydd tu allan. Ni'n gwybod fod hynny am fod yn anoddach wrth i'r gaeaf fynd 'mlaen.

"Ond gyda dyfeisgarwch de ni'n sicr y bod ffordd i finimeiddio'r risg i'r trigolion i'r staff ac i'r teuluoedd a bod ni'n gallu cael yr ymweliadau yma i ddigwydd."

Mae'r cartrefi yn dadlau nad yw hi wastad yn hawdd.

Dywed Kim Ombler, Fforwm Gofal Cymru, fod sefyllfa bob cartref yn wahanol.

"De ni'n lwcus mae gennym ni ystafell conservatory reit fawr, so alla ni gael indoor visiting neu oudoor visiting.

"De ni'n sbïo ar bethau i fynd mlaen yn y misoedd nesaf, be da ni'n mynd i wneud oherwydd mae hyn yn mynd i fynd ymlaen am fisoedd eto. De ni ddim yn gwybod am faint."

Ymateb Bupa

Mewn datganiad dywedodd Bupa eu bod yn dilyn cyfyngiadau ymweld sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru

Roedd hynny, meddant, yn cynnwys y ffaith fod ymweliadau tu mewn i'r adeilad wedi eu hatal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Ond maen nhw'n dweud eu bod yn ceisio caniatáu ymweliadau mewn amgylchiadau eithriadol, fel rhai diwedd oes.

"Diogelwch yw ein blaenoriaeth ac mae'r tîm wedi gweithio'n gaed i gadw'r cartref yn glir o'r haint yn ystod y pandemig."