Covid-19: Pryderon y sector gofal am brofion yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae cartrefi gofal yng Nghymru yn dweud nad ydi Llywodraeth Cymru ddim wedi "trin a thrafod o gwbl" y strategaeth profi coronafeirws newydd gyda nhw.
Erbyn hyn mae'r polisi i gynnig prawf wythnosol am bedair wythnos i'r holl weithwyr gofal wedi dod i ben - polisi ddaeth i rym ar 15 Mehefin.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae cartrefi gofal "yn gyffredinol yn gallu cael mynediad i brofi" ond mae yna "oedi sylweddol" i brosesu profion Covid-19.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dal i adolygu'r strategaeth ac y byddan nhw nawr yn "asesu'r effaith ac yn ystyried y camau nesaf er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein cartrefi gofal".
Beth yw'r cefndir?
Yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig cafodd gweinidogion eu beirniadu am beidio profi'r holl weithwyr a'r rhai oedd yn byw yn y cartrefi gofal.
Unigolion a symptomau oedd yn cael eu profi yn unig. Cafodd profion i gartrefi gofal lle nad oedd arwydd o'r feirws ei gyflwyno ddechrau Mai.
Ar 16 Mai cyhoeddodd y llywodraeth y byddai profion ar gael i'r holl weithwyr gofal a'r preswylwyr yng Nghymru.
Ond yna ar 15 Mehefin y polisi newydd oedd dim ond cynnig prawf wythnosol am bedair wythnos i'r staff yn y cartrefi.
'24 awr'
Dywedodd Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury mai'r pryder nawr yw pa mor hir mae'n rhaid aros i gael y canlyniadau.
"Ein profiad ni yw bod yna oedi sylweddol o hyd a dyw mwyafrif profion y cartrefi gofal ddim wedi eu dychwelyd o fewn 24 awr fel y mae Cell Cynghori Dechnegol yn dweud dylai ddigwydd," meddai.
Beth yw'r ffigyrau?
Ar gyfer yr wythnos tan 5 Gorffennaf roedd ffigyrau swyddogol yn dangos mai 49.6% o'r holl brofion oedd yn cael eu prosesu o fewn 24 awr, 74.1% o fewn 48 awr a 91.2% o fewn 72 awr.
Awgryma'r ffigyrau hefyd erbyn 5 Gorffennaf bod 28,057 o brofion wedi eu prosesu mewn labordai yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd yn byw mewn cartrefi gofal. Roedd 95% o'r rhain yn negyddol a 4% yn bositif.
39,124 o brofion gafodd eu cynnal i weithwyr cartrefi gofal gyda 97% yn negyddol a 3% yn bositif.
Mae Mary Wimbury yn "disgwyl i bolisi profi newydd gael ei ddadorchuddio wythnos yma" ond mae Fforwm Gofal Cymru "yn siomedig nad oes yna unrhyw ymgysylltiad wedi bod gyda'r sector ar hyn."
"Tra'n bod ni yn deall bod penderfyniadau ynglŷn â phrofi yn gorfod cael eu gwneud ar sail wyddonol, rydyn ni yn credu y byddem ni yn gallu cynnig rhyw oleuni pellach ar sut y byddai unrhyw bolisi newydd yn gweithio ar lawr gwlad," ychwanegodd.
"Rydyn ni wedi gofyn, er enghraifft, os bydd cartrefi gofal yn gallu profi staff sydd yn dychwelyd o'u gwyliau cyn iddyn nhw ddod yn ôl i'r gwaith.
"Gan ein bod nawr yn gwybod am y feirws yn cael ei drosglwyddo yn asymptomatig rydyn ni yn pryderu nad oes yna, hyd yn hyn, unrhyw gynnig wedi bod i brofi gweithwyr gofal sydd yn ymweld â chartrefi pobl, gweithwyr iechyd yn y gymuned, fel nyrsys ardal sydd yn gyson yn ymweld â chartrefi gofal, na gweithwyr iechyd sydd yn ymwneud gyda'r profi."
Ymateb gwleidyddol
Yn ôl Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus mae'n gwbl, "annerbyniol nad oes yna unrhyw gynllun wedi ei roi ar waith i barhau i brofi gweithwyr cartrefi gofal yn wythnosol.
"Mae methu a gwneud hyn yn golygu bod yna risg ein bod yn camu yn ôl i'r sgwâr cyntaf."
Mae yna gapasiti i brofi mwy na 15,000 o brofion bob dydd yn labordai Cymru ond ddydd Sadwrn er enghraifft dim ond 2,879 o brofion gafodd eu cynnal.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ar faterion gofal cymdeithasol a phobl hŷn, Janet Finch-Saunders ei bod hi nawr yn, "hanfodol bod y llywodraeth yn ymgynghori gyda'r maes cartrefi gofal ac yn ymestyn ac yn gwneud mwy o brofion i weithwyr cartrefi gofal ymhellach na'r fframwaith pedair wythnos sydd yn dod i ben heddiw.
"Yn ogystal mae yna angen i brofi'r holl weithwyr ar y rheng flaen sydd yn ymweld â chartrefi gofal yn gyson."
Yn ystod sesiwn lawn y Senedd ddydd Mercher gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies pam "fod lefel y profi yng Nghymru mor isel".
Mater 'cymhleth'
Atebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford "fod y nifer o brofion sy'n cael eu defnyddio yn llawer mwy cymhleth nag oedd e yn ei awgrymu."
"Y gwir yw wrth i'r clefyd ostwng yng Nghymru," meddai'r Prif Weinidog, "mae llai o bobl gyda symptomau a llai o bobl yn dod ymlaen eisiau eu profi.
"Dyw hynny ddim yn beth gwael ynddo ei hun, am ei fod yn dangos bod yna lawer yn llai o'r coronafeirws o gwmpas yng Nghymru heddiw nag oedd yna wythnos yn ôl, mis yn ôl, neu dri mis yn ôl."
"Felly dyw e ddim jest yn fater o ddweud, 'Os ydych chi yn gwneud mwy o brofion, mae'n rhaid eich bod chi'n gwneud yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020