'Tristwch hiliaeth' cyfnod y Rhyfel Mawr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Fis Hanes Pobl Dduon, mae dyn o Sir Ddinbych yn ceisio codi ymwybyddiaeth o brofiad cannoedd o filwyr mewn gwersyll yno wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe ddaeth miloedd o filwyr Canada i Wersyll Cinmel ger Bodelwyddan ar ôl y Cadoediad - yn aros i gael mynd yn ôl adref.
Ond mae'n ymddangos i un bataliwn oedd yn benodol ar gyfer milwyr du gael eu hanfon oddi yno yn gynnar oherwydd tensiynau hiliol.
Yn ystod y rhyfel fe gafodd llawer o ddynion du eu gwrthod wrth wirfoddoli i frwydro.
Ond yn sgil anniddigrwydd, fe gafodd yr Ail Fataliwn Adeiladu ei sefydlu yn Nova Scotia yn 1916.
Cafodd ei ffurfio fel bataliwn yn benodol ar gyfer milwyr du, ac ychydig o gymysgu oedd yna rhyngddyn nhw a'u cyd-filwyr gwyn.
Bu'r uned yn gwneud gwaith coedwigaeth ger y ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir a doedd dim bwriad iddyn nhw ymladd ar y rheng flaen.
Ymladd difrifol
Ond ar ôl y Cadoediad fe aeth 405 o filwyr o'r Ail Fataliwn Adeiladu i Wersyll Cinmel gyda miloedd o filwyr gwyn Canada.
Un diwrnod, fe drodd y tensiynau'n drais.
"Fe gafodd rhai pethau eu dweud, pethau hiliol, yn erbyn y milwyr du ac fe ddechreuodd ymladd difrifol," meddai Robert Griffiths, sydd wedi ysgrifennu am hanes y gwersyll.
"Roedd gan y milwyr gwyn anafiadau o gyllyll, a'r milwyr du wedi eu hanafu gan gerrig," meddai. "Roedd o'n ddigwyddiad difrifol iawn."
"Fe benderfynwyd wedyn, gyda rhyw 500 o filwyr du yng Ngwersyll Cinmel, mai y gorau po gyntaf y caen nhw eu hanfon yn ôl adref.
"O'r gwersyll yma, fe gawsant eu hanfon yn ôl i Ganada a'u hanghofio am yr hanner canrif nesaf."
Mae cwmni'r prifardd Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg y Gwalch, wedi cyhoeddi llyfr Robert Griffiths am Wersyll Cinmel.
"Mae'n bwysig i ni gofio bod milwyr cyffredin yn cael eu cam-drin a hynny'n aml iawn, iawn", meddai Mr ap Dafydd.
"Ond yn achos y gatrawd ddu yma, mae hi ddwywaith mor drist wrth gwrs. Mae'n dod ag elfen arall i mewn i dristwch y Rhyfel Mawr, sef hiliaeth.
"Ac mi roedd 'na hiliaeth does dim dwywaith o hynny yn y byddinoedd ac yn y ffosydd. Ac mae hyn yn gofnod o hynny."
Y milwr a arhosodd yng Nghymru
Ond nid oedd pob milwr du oedd yn yr Ail Fataliwn Adeiladu, ac fe arhosodd un yng Nghymru.
Fe gwympodd Benjamin Hagin mewn cariad â Chymraes leol o Ruddlan.
Mae eu perthnasau'n dal i fyw yn ardal Y Rhyl ac yn dweud na chlywsant erioed eu teulu'n sôn am hiliaeth yn ei erbyn.
"Mi fyswn i wedi disgwyl iddo ddioddef hiliaeth, ond wnaeth 'na neb erioed sôn," meddai ei wyres, Julie Parry.
"Does dim hanes iddo ddioddef rhagfarn. Mae'n debyg iddo ffitio fewn.
"Yr unig filwr du i aros ar ôl ac mi wnaeth o ffitio fewn i'r gymuned. De'n ni'n falch iawn ohono."
Cafodd yr Ail Fataliwn Adeiladu ei ddiddymu ym mis Medi 1920.
Dechreuodd ymdrech i godi ymwybyddiaeth ohono yn y 1980au.
Cafodd stamp swyddogol ei lansio yng Nghanada yn 2016 i gofio am y milwyr ac mae cofeb iddyn nhw i'w gael yn Nova Scotia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2020