Data ffôn symudol yn dangos newid ymddygiad ers Covid-19

  • Cyhoeddwyd
teithio yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau traffig wedi gostwng mewn sawl ardal ers i gyfyngiadau ddod i rym

Wrth i Gymru wynebu pythefnos arall o gyfnod clo cenedlaethol, mae data yn dangos fod y cyfyngiadau lleol oedd eisoes yn bodoli mewn rhai ardaloedd wedi gwneud gwahaniaeth i ymddygiad pobl.

Yn ôl data lleoliad Google mae modd gweld y newid mewn ymddygiad ers cyn y pandemig ar ddechrau'r flwyddyn.

Mae'n golygu bod modd gweld y gostyngiad yn nifer y tripiau i fwytai, caffis a thafarndai, ac i'r gwaith - a'r cynnydd mewn rhai ardaloedd pan mae'n dod at dripiau i'r parc neu'r traeth.

Fel rhan o'u proses o fonitro'r pandemig, ac ymateb y cyhoedd, mae grŵp cyngor gwyddonol Llywodraeth Cymru eisoes yn cadw llygad ar y patrymau hyn.

Daw'r wybodaeth o ddata ffonau symudol yn ogystal â Google a Facebook - ond beth maen nhw'n ei ddangos?

Llai o deithio i'r gwaith

Mae'n rhy gynnar eto i weld sut effaith mae'r cyfnod clo byr cenedlaethol a ddaeth i rym ar 23 Hydref wedi'i gael.

Ond roedd sawl rhan o Gymru eisoes dan gyfyngiadau lleol hyd yn oed cyn hynny - ac mae data symudol gan O2 yn dangos bod "cwymp sylweddol" wedi bod yn nifer y tripiau y diwrnod wedi i lawer o'r rheiny ddod i rym ar 28 Medi.

Wedi hynny fodd bynnag fe wnaeth nifer y teithiau godi yn ôl i'w lefelau arferol mewn rhai ardaloedd ar ôl ychydig ddyddiau, tra bod eraill dal yn is nag yr oedden nhw.

Mae data lleoliad Google, dolen allanol yn dangos mai Caerdydd welodd y cwymp mwyaf o ran nifer y teithiau i fwytai, caffis, tafarndai, a siopau ac atyniadau hamdden eraill.

Ond doedd fawr ddim newid mewn ardaloedd fel Sir Benfro, Powys ac Ynys Môn - ardaloedd oedd ddim dan unrhyw gyfyngiadau lleol ar y pryd.

Roedd y data ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn dangos gostyngiad sylweddol mewn llefydd fel Caerdydd o'i gymharu â dechrau'r flwyddyn, wrth i fwy o bobl ddechrau gweithio o adref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o bobl wedi bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ers pandemig Covid-19

Cododd y lefelau ychydig wrth i'r haf fynd yn ei flaen, cyn gostwng eto pan ddaeth y cyfyngiadau lleol i rym, gyda'r data diweddaraf yn dangos cwymp cyffredinol o 58%.

Roedd patrymau teithio ar fysus a threnau hefyd ar i lawr mewn sawl ardal arall, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr (-44%), Wrecsam (-29%) a Chasnewydd (-28%).

Caerdydd welodd y cwymp mwyaf hefyd yn nifer y teithiau i'r gweithle, tra bod Sir Benfro, Casnewydd, Caerffili a Phowys hefyd wedi gweld gostyngiad o thua traean.

Ar y llaw arall gwelwyd y newid lleiaf ym Mlaenau Gwent ac Ynys Môn.

Mae'r data diweddaraf yn dangos fodd bynnag bod tripiau hamdden i lefydd fel parciau, traethau a gerddi cyhoeddus wedi cynyddu mewn sawl ardal.

Roedd y cynnydd mwyaf i'w weld yn Sir Conwy, tra bod ardaloedd eraill sy'n boblogaidd â thwristiaid gan gynnwys Ceredigion, Abertawe a Sir Benfro hefyd o gwmpas 50% yn uwch.

Gwelwyd y cynnydd isaf yn Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy, tra bod cwymp wedi bod yng Nghaerdydd.

Gyda'r data yn rhoi cipolwg felly ar sut mae ymddygiad pobl yn newid, bydd gwleidyddion yn siŵr o fod yn cadw llygad barcud felly wrth iddyn asesu effaith y cyfyngiadau cenedlaethol diweddaraf.