Amgueddfa Cymru i ailystyried portread Syr Thomas Picton
- Cyhoeddwyd
Bydd portread o'r perchennog caethweision a'r milwr Syr Thomas Picton, sy'n ei labelu'n arwr yn cael ei "ail-fframio" gyda mwy o gyd-destun am ei fywyd dadleuol, meddai Amgueddfa Cymru.
Mae'r Panel Cynghori Is-Sahara yn cynghori'r amgueddfa ar ddyfodol y paentiad, sydd yn un o'i orielau yng Nghaerdydd.
Mae Picton wedi cael ei ddathlu yn y gorffennol fel arwr fu farw ym Mrwydr Waterloo.
Ond pan roedd yn lywodraethwr ar ynys Trinidad fe fu'n cam-drin y caethweision yr oedd yn berchen arnynt.
Tynnwyd cerflun o Picton o wal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd yn gynharach eleni, tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ystyried dyfodol cofeb iddo yng Nghaerfyrddin.
Roedd Picton, a anwyd yn Hwlffordd yn 1758, yn cael ei gofio gyda balchder gan lawer ond roedd hanes ei greulondeb yn Trinidad yn adnabyddus cyn ei farwolaeth yn Waterloo.
Mae ailystyried cyfraniad Syr Thomas Picton wedi dwysáu ers datblygiad y mudiad Black Lives Matter.
Pleidleisiodd cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf i dynnu cerflun marmor o Syr Thomas Picton o'i Neuadd Arwyr yn Neuadd y Ddinas.
Galwodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru Banel Cynghori Is-Sahara i benderfynu dyfodol ei bortread mawr o Picton, sydd ar hyn o bryd yn hongian yn oriel Wynebau Cymru y tu mewn i Amgueddfa Caerdydd.
Dywedodd cyfarwyddwr y panel, Fadhili Maghiya, y dylai'r paentiad barhau i gael ei arddangos ond gyda manylion ychwanegol am weithredoedd Picton fel perchennog caethweision.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Yr un diwrnod yr oedd cyngor Caerdydd yn pleidleisio i gael gwared ar y cerflun o Picton, daethom i benderfyniad ein bod am ail-fframio Picton ac i adrodd stori Picton yn ei gymhlethdod cyfan.
"Nid ydym yn ymwneud â dileu diwylliant, na'r elfen o gael gwared ar bethau er mwyn cael gwared ar bethau oherwydd eu harwyddocâd hanesyddol.
"Rydyn ni'n credu y dylid adrodd hanes yn ei gymhlethdod, ac yn ei ffordd dda, drwg a hyll."
Dywedodd Mr Maghiya fod angen ailwerthuso stori Picton.
"Yn sicr mae stori Picton wedi cael ei darlunio fel rhywun sy'n arwr. Mae'n cael ei barchu yma yng Nghymru. Mae yna strydoedd ac adeiladau wedi'u henwi ar ei ôl. Ond nid yw pobl wir yn gwybod stori Picton yn llawn, heblaw fel y cymeriad arwrol.
"Ac felly roedden ni eisiau adrodd y stori yn llawn, gan edrych ar rôl Picton yn y fasnach gaethweision ac yn enwedig fel llywodraethwr Trinidad a'r hyn a wnaeth yno yn ystod yr amser hwnnw."
Beth wnaeth Picton yn Trinidad?
Roedd Picton wedi cael ei barchu ers amser maith fel y swyddog Prydeinig o'r rheng filwrol uchaf i farw ym Mrwydr Waterloo ym 1815.
Ond fel llywodraethwr Trinidad yn y 1790au a dechrau'r 1800au, rhoddodd ganiatâd i defnyddio artaith ar bobl leol, gan gynnwys Luisa Calderon, 14 oed, a gyhuddwyd o ddwyn.
Arweiniodd y digwyddiad at orchymyn iddo ddychwelyd adref i sefyll ei brawf yn Llundain. Fe'i cafwyd yn euog ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi yn ddiweddarach.
Fe gollodd ei enw da ar y pryd, gyda Dug Wellington yn ei ddisgrifio fel "diafol garw budr, ond galluog iawn".
Fe ail-sefydlodd ei enw da yng ngŵydd rhai o achos ei ymdrechion ar faes y gad, ac yn dilyn ei farwolaeth cafodd nifer o gofebau gan gynnwys yr obelisg yng Nghaerfyrddin eu hadeiladu.
Roedd y llun o Syr Thomas Picton sy'n hongian yn yr Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd yn anrheg gan Iarll Plymouth ym 1907 ond mae'n llawer hŷn, a chredir iddo gael ei hongian yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ym 1816.
Dyfodol y portread
Dywedodd cyfarwyddwr casgliadau Amgueddfa Cymru, Dr Kath Davies, ei bod am i Banel Cynghori Is-Sahara benderfynu ar ddyfodol y paentiad.
"Rydyn ni'n cydnabod bod yn rhaid i ni edrych eto ar sut rydyn ni'n arddangos Picton a chytunwyd fel amgueddfa y dylai'r lleisiau, y llais curadurol, fod yn rhywle arall ar yr achlysur hwn," meddai.
"Mae yna nifer o syniadau dan ystyriaeth, ac mae'r grŵp yn cymryd ei amser i ystyried pob elfen. Ond yn sicr bydd angen ail-fframio Picton.
"Rydyn ni'n gobeithio efallai ymgorffori ail-arddangos Picton gyda gwaith arall y mae'r amgueddfa wedi bod yn gwneud mewn perthynas â phrotest BLM, a'r casgliadau a gasglwyd gennym trwy fynychu'r protestiadau hynny a gofyn i'r rhai oedd yno rannu eu placardiau a'u baneri."
Ardaloedd cymhleth
Dywedodd Dr Davies fod yr amgueddfa hefyd wedi nodi gwrthrychau eraill yn ei chasgliad gyda chysylltiadau â'r fasnach gaethweision a gwladychiad Prydain o diriogaethau tramor.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod yna feysydd cymhleth yn y casgliad, ac ar hyn o bryd rydyn ni'n datblygu siarter i archwilio sut y gallwn ddad-wladychu ein casgliadau," meddai.
"Efallai mai'r dybiaeth naturiol yw y byddem yn disgwyl i'r problemau fod o fewn y casgliadau celf gwych, ond mewn gwirionedd hyd yn oed yn ymchwilio cyn belled ag yr ydym wedi gwneud hyd yn hyn, rydym yn darganfod rhai materion mewn perthynas â'n casgliad gwyddorau naturiol.
"Roedd llawer o'r casglwyr Fictoraidd mawr, a chasglwyr dechrau'r ugeinfed ganrif, yn dod o deuluoedd a elwodd o'r fasnach gaethweision. Felly mae'n fater cymhleth iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020