Cofio'r bocsiwr Johnny Owen

  • Cyhoeddwyd
johnny owen

Ganwyd Johnny Richard Owens yn Merthyr Tudful ar 7 Ionawr 1956, y pedwerydd o wyth o blant i deulu cyffredin dosbarth gweithiol.

Roedd ganddo nifer o lysenwau, gyda'r Merthyr Matchstick yn eu plith - roedd yn 5'8" o daldra ond yn hynod o denau ac yn eiddil yr olwg. Ond roedd yn focsiwr penderfynol a gweithgar ac fe drodd yn broffesiynol yn 1976 gan ollwng yr 's' o'i enw.

Enillodd Pencampwriaethau Pwysau Bantam Cymru, Prydain, y Gymanwlad ac Ewrop. Cymaint oedd ei lwyddiant nes iddo gael y cyfle i ymladd am Bencampwriaeth Pwysau Bantam y Byd yn erbyn Lupe Pintor o Fecsico ar 18 Medi, 1980.

Disgrifiad o’r llun,

Johnny Owen yn ennill gwobr Geoffrey Simpson gan y 'Boxing Writer's Club' yn Llundain i'r bocsiwr ifanc gorau, 1978.

Ond roedd hi'n noson o drasiedi i'r Cymro ac i Gymru gyfan.

Ar ddiwedd y 12fed rownd yn dilyn ergyd drom fe loriwyd Johnny Owen i'r cynfas yn anymwybodol. Aeth Johnny mewn i goma nes iddo farw yn yr ysbyty yn Los Angeles ar 4 Tachwedd, 1980.

Roedd y BBC o'r farn bod y clip ohono'n disgyn mor frawychus penderfynwyd ganslo ailddarllediad o'r ornest, gan gynnig rhaglen uchafbwyntiau yn ei le.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Johnny Owen yn enwog am ei ffitrwydd a'r pwysau roedd yn ei roi ar ei wrthwynebion

Yn y Grand Olympic Auditorium yn Los Angeles ar noson yr ornest oedd y gohebydd bocsio a'r hanesydd, Gareth Jones.

"Roedd pobl ychydig bach yn amheus ynglŷn â'r syniad o Johnny Owen ni'n mynd i Los Angeles ymysg y Mecsicaniaid i gyd i ymladd pencampwr y byd.

"Ond wedi dweud hynny doedd Lupe Pintor ddim mor arbennig â hynny ac felly roedd lot o bobl yn meddwl y dylai Johnny ennill, neu yn sicr bod y ddawn gan Johnny i ennill."

'Cymeriad swil'

"Roedd Johnny yn gymeriad swil a thawel, caredig ac annwyl," meddai Gareth. "Ond fel bocsiwr roedd e'n hollol wahanol, roedd e'n ddi-stop ac yn ffit ffit iawn, ac y pressure-fighter gorau dwi 'di ei weld i ryw raddau, yn dal ati a dal ati a dal ati. Yn anffodus doedd dim ergyd trwm 'da fe, ond roedd dawn 'da fe."

Disgrifiad,

Y hanesydd Gareth Jones a'r cyn-focsiwr amatur Owain Machno Lloyd â hanes Johnny Owen

Aeth Johnny Owen i Los Angeles i ymladd mewn awyrgylch tanllyd o flaen torf gwbl partisan, fel esboniai Gareth Jones:

"Roedd y lle yn llawn dop â Mecsicanwyr, neu'r rhai oedd yn byw yn California, heblaw am dair rhes o Gymry aeth draw.

"O'r dechrau doedd dim nerfusrwydd gan Johnny o gwbl - roedd e'n bocsio'n dda ac yn ennill hanner cynta'r ornest. Roedd 'na dipyn bach o doriad ar wyneb Pintor, a'r dyfarnwr yn checkio arno fe, ond yn anffodus roedd gan Johnny doriad yn ei geg ac roedd rhaid iddo fe lyncu gwaed.

'Lawr am y tro cynta' yn ei oes'

"Roedd popeth bron yn gyfartal tua'r nawfed rownd, ac yna fe redodd Johnny yn syth mlaen i ergyd drom gan Pintor ac aeth e lawr am y tro cynta' yn ei oes. Roedd e dipyn bach yn nerfus ar ôl codi ac fe roddodd e dipyn o ergyd i'w hunan-hyder, ond fe ddaliodd ati tan y gloch i ddiweddu'r rownd.

"Enillodd Pintor y 10fed a'r 11eg rownd, gan ddechrau glanio gyda'r uppercuts, ac yn y 12fed rownd fe laniodd yr ergyd drwm i yrru Johnny lawr eto. Dywedodd ei fod yn gallu mynd ymlaen ond yn fuan wedyn fe ddaeth yr ergyd farwol. Fe aeth e lawr fel pyped â rhywun wedi torri'r llinynnau, ac fe dorrodd ei ben ar y cynfas.

"Fel arfer mae bocsiwr yn cael ergyd ac yn stagro nôl neu ddisgyn ymlaen, ond fe aeth Johnny i syth lawr - dwi'n gallu gweld hynny o hyd.

"A'th e mas ar y stretcher, gyda'r Mecsicanwyr yn bloeddio ac yn croesawu'r stretcher. Roedd rhai ohonyn nhw yn dwyn o bocedi'r rhai oedd yn cario Johnny, gan gynnwys Mickey Duff - roedd e gyd yn hyll iawn i fod yn onest."

Pan adawodd Johnny lleoliad yr ornest fe waethygodd ei gyflwr yn ddifrifol.

"A'th e i'r ysbyty ar 'stryd y gobaith' - Hope Street. Roedd clot ar ei ymennydd ac roedd rhaid iddo gael llawdriniaeth yn ystod y nos. Ond yn anffodus daeth e ddim rownd o gwbl a rhyw saith wythnos yn ddiweddarach daeth y penderfyniad i droi'r peiriant i ffwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Englyn Aled Lloyd Davies

Diogelwch bocsio

Roedd gan Johnny Owen ên gref ond penglog deneuach na'r arfer. Yn ôl Gareth Jones os fyddai'n fachgen ifanc heddiw ac eisiau dechrau bocsio, fe fyddai'r awdurdodau yn ei atal rhag cael trwydded.

"Mae bocsio lot saffach dyddiau 'ma" meddai Gareth Jones. "Nid jest oherwydd beth ddigwyddodd i Johnny ond hefyd beth ddigwyddodd i Michael Watson (bocsiwr a gafodd anafiadau difrifol mewn gornest yn erbyn Chris Eubank yn 1991). Heddiw mae mwy o staff meddygol wrth y sgwâr bocsio, mae'r ysbyty lleol yn ymwybodol fod gornest, mae rhaid cael dau ambiwlans ger yr adeilad."

Mae Owain Machno Lloyd, cyn-focsiwr amatur a chefnogwr bocsio, yn cytuno bod bocsio yn llawer mwy diogel heddiw nag yn oes Johnny Owen.

"Does neb yn bwriadu mynd mewn i'r ring i ladd rhywun arall, ond yn anffodus mae o yn ganlyniad ofnadwy yn y gamp ar adegau.

"Ers yr 80au hwyr mae bocsio 'di mynd lawr o 15 rownd i 12 rownd, sy'n golygu bod nhw'n ymladd am bron i 10 munud yn llai."

Disgrifiad o’r llun,

Lupe Pintor gyda Phil ac Edith Owen, rhieni Johnny. Cafodd Pintor i wahodd i ddadorchuddiad cerflun Johnny Owen ym Merthyr ar 2 Tachwedd 2002.

Dywed Owain Machno Lloyd: "Mae Prydain yn arwain y ffordd yn y byd o ran iechyd a diogelwch bocsio, gan wneud yn siŵr fod y colli pwysau sydd fel arfer yn ofynnol i focsiwr wneud o fewn cyrraedd wythnosau cyn y ffeit. Maen nhw hefyd yn pwyso'r bocswyr y diwrnod cynt, yn hytrach na ar y diwrnod."

"Felly un o'r pethau da i ddod o drasiedi Johnny, os liciwch chi, ydi bod mwy o sylw wedi ei roi i'r ochr feddygol, gyda sgans ac ati yn cael eu defnyddio yn amlach hefyd."

Yn dilyn stori hynod drist Johnny Owen, un cysur efallai yw bod bocsio wedi ei newid a'i wneud yn saffach. Bu farw Johnny Owen yn 24 oed ar 4 Tachwedd, 1980 - dyn ifanc dewr dosbarth gweithiol sy'n cael ei ystyried fel arwr gan lawer yn nhref Merthyr a thrwy Gymru hyd heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Cyn-bencampwr pwysau trwm y byd, Mike Tyson, yn edrych ar y cerflun o Johnny Owen ar ei ymweliad â Merthyr yn 2009

Hefyd o ddiddordeb: