Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 wedi ei chyhoeddi.
Mae 15 albwm wedi cael eu rhestru ar gyfer y wobr, yn cynnwys albymau Ani Glass, Gruff Rhys, Georgia Ruth, Don Leisure ac Yr Ods.
Llynedd y band Adwaith enillodd y wobr gyda'r albwm Melyn.
Dyma'r degfed tro i'r wobr gael ei rhoi, a bydd enillydd eleni yn cael ei gyhoeddi ar 19 Tachwedd.
Y rhestr fer
Ani Glass - Mirores
Colorama - Chaos Wonderland
Cotton Wolf - Ofni
Deyah - Care City
Don Leisure - Steel Sakuzki
Georgia Ruth - Mai
Gruff Rhys - Pang!
Islet - Eyelet
Keys - Bring Me The Head of Jerry Garcia
Kidsmoke - A Vision In The Dark
Los Blancos - Sbwriel Gwyn
Luke RV - Valley Boy
Right Hand Left Hand - Zone Rouge
Silent Forum - Everything Solved at Once
Yr Ods - Iaith y Nefoedd
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.
Dywedodd Mr Rostron: "Mae'r sector miwsig byw wedi cael ei ddinistrio'r flwyddyn hon, ac i artistiaid mae hynny'n meddwl bod y cyfle i berfformio'n fyw, ennill incwm a chynyddu eu dilyniant wedi cael ei golli.
"Ond dydy Covid-19 heb gael gwared â chwant pobl am wrando a darganfod miwsig newydd.
"Mae ffrydio a phrynu recordiau newydd wedi bod yn bwysig wrth alluogi perfformwyr i gyrraedd eu cynulleidfaoedd, ac i bawb aros mewn iechyd da gyda dos dyddiol o ganeuon newydd."
Mae enillwyr eraill y wobr yn y gorffennol yn cynnwys Boy Azooga yn 2018 a Gwenno yn 2015. Mae'r ddau wedi mynd ymlaen i deithio'r byd yn chwarae eu cerddoriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019