Gwahardd Jeremy Corbyn yn 'beth cwbl gywir' i'w wneud
- Cyhoeddwyd
Gwahardd Jeremy Corbyn o'r Blaid Lafur am ei ymateb i adroddiad hynod feirniadol ar wrth-Semitiaeth oedd y peth "cwbl gywir" i'w wneud yn ôl llefarydd y blaid ar Gymru.
Daeth yr adroddiad gan gorff gwarchod hawliau dynol i'r casgliad fod Llafur yn gyfrifol am aflonyddu a gwahaniaethu "anghyfreithlon" yn ystod pedair blynedd a hanner Mr Corbyn fel arweinydd.
Cafodd y cyn-arweinydd ei wahardd o'r blaid ar ôl dweud bod graddfa gwrth-Semitiaeth o fewn Llafur wedi cael ei "or-ddatgan yn ddramatig" gan wrthwynebwyr.
Dywedodd Nia Griffith AS fod proses ddisgyblu fewnol ar y gweill oherwydd "gofynnwyd iddo ailfeddwl am y geiriau a ddefnyddiodd a phenderfynodd beidio".
Pan ofynnwyd iddi ar BBC Radio Wales fore dydd Gwener os oedd unrhyw ffordd yn ôl i Mr Corbyn, dywedodd: "Mae yna broses iawn i'w dilyn. Rwy'n siŵr y gall fod ffordd yn ôl os mai dyna mae'n ei ddewis."
'Diwrnod o gywilydd'
Dywedodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod Llafur yn gyfrifol am dri achos o dorri'r Ddeddf Cydraddoldeb:
Ymyrraeth wleidyddol mewn cwynion am wrth-Semitiaeth;
Methu â darparu hyfforddiant digonol i'r rhai sy'n delio â chwynion gwrth-Semitiaeth;
Aflonyddu, gan gynnwys defnyddio ystrydebau gwrth-Semitaidd ac awgrymu bod cwynion gwrth-Semitiaeth yn ffug neu'n ddull o bardduo.
Daeth yr adroddiad o hyd i dystiolaeth o 23 achos o "gyfraniad amhriodol" gan swyddfa Mr Corbyn.
Dywedodd Syr Keir Starmer, ddaeth yn arweinydd Llafur ym mis Ebrill, fod yr adroddiad wedi dod â "diwrnod o gywilydd" i'r blaid ac addawodd weithredu'r argymhellion "cyn gynted â phosib yn y flwyddyn newydd".
'Cyflymu nid rhwystro' proses gwynion
Yn ei ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Mr Corbyn ei fod wedi "gweithredu i gyflymu, nid rhwystro'r broses" o ddelio â chwynion, ond bod graddfa gwrth-Semitiaeth o fewn Llafur wedi cael ei "or-ddatgan yn ddramatig am resymau gwleidyddol gan ein gwrthwynebwyr y tu mewn a thu allan i'r blaid".
Yn fuan wedi hynny fe wnaeth ysgrifennydd cyffredinol Llafur, David Evans, wahardd Mr Corbyn rhag bod yn aelod o'r blaid am y tro.
Dywedodd y blaid bod hyn wedi digwydd "yng ngoleuni ei sylwadau" a'i "fethiant i'w tynnu'n ôl wedi hynny".
Yn dilyn ei waharddiad, galwodd Mr Corbyn y cam yn un "gwleidyddol" ac addawodd ei "wrthwynebu'n gryf".
Ond dywedodd Ms Griffith: "Mae hwn yn adroddiad sydd wedi peri gofid mawr... yn enwedig i ni fel plaid sydd wedi hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i gael ein hunain yn destun ymchwiliad ac mae'r canfyddiadau, wrth gwrs, yn ofnadwy.
"Fel y dywedodd Keir Starmer yn glir iawn, rydym yn derbyn yr adroddiad hwn yn llawn ac mae hynny'n golygu peidio â gwadu na bychanu'r broblem."
Dywedodd un o gefnogwyr mwyaf grymus y cyn-arweinydd, ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Len McCluskey, fod y cam o ddiarddel Mr Corbyn dros dro yn peryglu "anhrefn" ac y gallai gostio'r etholiad nesaf i'r blaid.
Mewn ymateb, dywedodd Ms Griffith bod arweinydd yr undeb "bob amser wedi cael ei farn ei hun... ond rwy'n credu bod mwyafrif ein haelodau eisiau gwneud pethau'n iawn, maen nhw eisiau i ni fod yn y lle iawn ar hyn".
Cabinet Jeremy Corbyn
Pan ofynnwyd a oedd hi a Syr Keir Starmer yn difaru gwasanaethu yng nghabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn ystod ei gyfnod fel arweinydd, dywedodd AS Llanelli: "Na, a credaf mai'r pwynt yw mai'r hyn y gwnaeth y ddau ohonom geisio ei wneud, Keir Starmer a minnau yn y cabinet cysgodol ac ar y cyfryngau, oedd dweud 'mae hon yn broblem yr oedd angen ei datrys'."
"Fe wnaethon ni alw am fynd i'r afael â mater gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid lawer gwaith.
"Rydych chi bob amser yn gobeithio dylanwadu ar bethau yn y cabinet cysgodol," ychwanegodd.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru a'r Prif Weinidog Mark Drakeford, a gefnogodd ymgyrchoedd arweinyddiaeth Jeremy Corbyn: "Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn.
"Fel yr wyf wedi egluro'n glir lawer gwaith, nid oes gan wrth-Semitiaeth le yn Llafur Cymru a dim lle yng Nghymru."
Dywedodd Gwreiddiau Llafur Cymru, grŵp ar asgell chwith y blaid oedd yn gefnogol iawn i arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, ar Twitter: "Rydyn ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda @jeremycorbyn, ymgyrchydd a gwleidydd gwrth-hiliol gydol oes sydd wedi sefyll dros leiafrifoedd bob amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020