'Rhaid cadw campfeydd ar agor mewn cyfnodau clo'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i gampfeydd a chanolfannau hamdden gael eu trin fel "gwasanaethau hanfodol" i'w hatal rhag cau dro ar ôl tro yn ystod misoedd y gaeaf, mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi addo y bydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor ar 9 Tachwedd.
Mae grŵp o dros 100 o berchnogion campfeydd wedi dweud eu bod yn barod i dorri unrhyw ddeddfau clo yn y dyfodol er mwyn amddiffyn iechyd meddwl a chorfforol aelodau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer cloeon pellach.
Campfeydd, canolfannau hamdden, pyllau nofio a stiwdios ffitrwydd oedd y busnesau olaf i gael ailagor ar ôl cael eu gorfodi i gau eu drysau ddiwedd mis Mawrth.
Ond yr wythnos diwethaf, ar ôl bod ar agor am ddau fis, fe gawson nhw eu cau eto, ochr yn ochr â thafarndai a bwytai, a siopau nad oedd yn hanfodol.
Mae'r clo byr cenedlaethol presennol yn para 17 diwrnod mewn ymgais i ffrwyno lledaeniad coronafeirws.
'Ffynnu mewn lleoedd swnllyd'
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi beio'r cynnydd mewn achosion ar bobl yn siarad y tu mewn, gan ddweud bod y feirws yn cael ei ledaenu trwy "ddefnynnau anadlol".
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd bod coronafeirws "yn ffynnu mewn lleoedd swnllyd lle mae pobl yn gollwng aer, lle mae'n boeth ac mae'n chwyslyd".
Ond dywed Welsh Gym Owner Collective, corff sy'n cynrychioli dros 100 o berchnogion campfeydd annibynnol, eu bod yn barod i wneud "beth bynnag sydd ei angen" i aros ar agor.
Dywed hefyd y byddan nhw wedi bod yn barod i dorri'r gyfraith, pe byddan nhw wedi cael eu gwahardd rhag agor ar 9 Tachwedd.
Dywedodd sylfaenydd y grŵp, Lawrence Gainey fod misoedd o gau eisoes wedi cael effaith "ddinistriol" ar iechyd meddwl a chorfforol aelodau, a'i fod yn ofni beth fyddai'n digwydd pe byddan nhw'n cael eu gorfodi i gau eto yn ystod y gaeaf.
Tra bod pobl yn cael ymarfer corff y tu allan, ar eu pennau eu hunain neu gyda'u cartref yn ystod y cyfnod clo, rhybuddiodd Mr Gainey y byddai tywydd gwael a dyddiau byrrach yn effeithio'n wael ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Dywedodd Mr Gainey, sy'n berchen ar Pro Fitness ym Mhenarth, Bro Morgannwg, y dylid ystyried bod campfeydd a chanolfannau hamdden yn hanfodol yn ystod y pandemig, ac ni ddylid eu cau ar "10 munud o rybudd".
"Mae cymaint o'n haelodau wedi dweud ei fod yn helpu eu hiechyd meddwl, nid yw'n ymwneud ag iechyd corfforol yn unig, rydyn ni wir yn lleddfu pwysau ar y GIG," meddai.
Dywedodd Mr Gainey fod campfeydd wedi gwario miloedd yn gwneud newidiadau i gadw aelodau'n ddiogel, gydag aelodau'n cael gwiriadau tymheredd cyn cael caniatâd i fynd i mewn, a dim ond "ychydig o achosion" oedd wedi'u cysylltu â chyfleusterau yng Nghymru.
"Os oes argyfwng cenedlaethol, [sy'n arwain at glo arall], a'i bod yn sylfaenol i bob busnes gau, yna ni fyddwn yn ymddwyn yn anghyfrifol," meddai.
"Ond os nad yw'r wyddoniaeth yn cefnogi'r camau y mae'r llywodraeth yn eu cymryd, yna byddwn yn gwthio yn ôl ac yn gwrthod cau."
Mae ymchwil gan gorff masnach y campfeydd UK Active yn honni bod nifer yr achosion sy'n gysylltiedig â champfeydd yn isel, gyda 156 o achosion yn gysylltiedig â dros bum miliwn o ymweliadau rhwng 5-11 Hydref.
Ac mae deiseb i'r Senedd yn galw ar nodi campfeydd yn hanfodol pe bai cyfnod clo arall yn digwydd wedi cyrraedd dros 20,000 o lofnodion.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gydnabod fod y cyfnod clo yn "anodd" i lawer o bobl, gan gynnwys busnesau, ond anogodd bobl i gadw at y rheolau i achub bywydau.
O dan reoliadau coronafeirws, mae busnesau sy'n gwrthod cau'n ystod unrhyw glo yn cyflawni trosedd, a gallan nhw wynebu dirwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw gloeon pellach ar y gweill a dywedodd y byddai campfeydd yn ailagor ar 9 Tachwedd ochr yn ochr â siopau nad ydyn nhw'n hanfodol a gwasanaethau eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020