Pro14: Scarlets 3-6 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i'r Scarlets chwarae heb Josh Helps am gyfnod wedi iddo gael cerdyn cochFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r Scarlets chwarae heb Josh Helps am gyfnod wedi iddo gael cerdyn coch

Colli wnaeth y Scarlets adref yn erbyn Caeredin yn y Pro 14 nos Sul gan olygu bod y Cymry wedi colli ddau ddiwrnod o'r bron yn erbyn Albanwyr ar Barc y Scarlets.

Hyd yma doedd Caeredin ddim wedi ennill yn y Pro14 y tymor hwn ond fe wnaeth dwy gic gosb gan Jaco van der Walt sicrhau'r fuddugoliaeth.

Angus O'Brien a sgoriodd i'r tîm cartref gyda chic gosb.

Ychydig cyn awr o chwarae roedd yna gerdyn melyn i Werner Kruger ac ar ben yr awr roedd yn gerdyn coch i'r Scarlets wedi i Josh Helps daclo'r asgellwr George Taylor yn beryglus.

Roedd yna fwy o siâp ar chwarae'r Scarlets erbyn diwedd y gêm wrth iddyn nhw chwarae yn dîm llawn ond ni lwyddon nhw i gael mwy o bwyntiau.

Ar ddechrau'r gêm roedd yna deyrnged i'r cyn-chwaraewr rygbi JJ Williams a fu farw yr wythnos hon.