Teithwyr o'r Almaen a Sweden i orfod hunan-ynysu
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i deithwyr o'r Almaen a Sweden hunan-ynysu am bythefnos wedi iddyn nhw gyrraedd Cymru o'r penwythnos hwn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod wedi gwneud y penderfyniad wedi iddo adolygu asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch.
"Rwyf wedi penderfynu y bydd Yr Almaen a Sweden yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio," meddai.
"Felly bydd rhaid i deithwyr o'r gwledydd hynny hunan-ynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru."
Mae nifer o wledydd Ewropeaidd, fel Ffrainc, Gwlad Belg, Sbaen a Phortiwgal eisoes wedi'u tynnu oddi ar y rhestr o wledydd sydd wedi'u heithrio.
Mae'r holl wybodaeth am a ydy gwledydd a thiriogaethau wedi'u heithrio ai peidio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Bydd y rheolau newydd yn dod i rym am 04:00 fore Sadwrn, 7 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020