Cyhuddo Carwyn Jones o dorri'r cod gweinidogol

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi'i gyhuddo o dorri'r cod gweinidogol dros ei benodiad fel ymgynghorydd i gwmni ynni.

O ganlyniad i'w benodiad gan y cwmni ynni rhyngwladol SIMEC, mae Mr Jones hefyd wedi'i benodi'n aelod bwrdd cynghori byd-eang GFG Alliance, sy'n cynnwys Liberty Steel.

Fe gynghorodd y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes Mr Jones rhag ymwneud â GFG Aliance "o ystyried faint o ddealltwriaeth yr oeddech wedi'i ddatblygu o'r diwydiant dur yn ystod eich cyfnod fel prif weinidog".

Mae Carwyn Jones yn mynnu nad ydyw wedi gwneud "unrhyw beth o'i le".

Mae wedi dweud wrth y pwyllgor fod ei "safle ar GFG Alliance fel ymgynghorydd i SIMEC yn unig" ac na fydd "yn mynychu cyfarfodydd lle mae unrhyw eitem ar yr agenda sy'n mynd y tu hwnt i gyngor y pwyllgor ac ni fyddaf yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth y bydd yn mynd y tu hwnt i gyngor y pwyllgor".

Mae'r cyn-brif weinidog wedi dweud ei fod yn bwriadu chwarae "rhan lawn yn GFG" o 12 Rhagfyr - ychydig dros ddwy flynedd ers iddo gamu o rôl Prif Weinidog Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.

Mewn ymgais i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau, mae'n ofynnol i gyn-weinidogion wneud cais am gyngor gan y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes cyn pen dwy flynedd ar ôl gadael y swydd.

Ym mis Awst, cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes ei gyngor i Carwyn Jones am ei benodiad fel ymgynghorydd ynni i SIMEC, gan ddweud ei fod wedi penderfynu bod rhai amodau a'r "amser sydd wedi mynd heibio ers i chi adael y swydd... yn lliniaru'r risgiau y gallwch eu cynnig o fan cynnig mantais annheg o ran eich dealltwriaeth".

'Mynediad at wybodaeth'

Ond nododd y cyngor y byddai'r cyn-brif weinidog "wedi cael mynediad at wybodaeth a allai fod o fudd i GFG gan eich bod wedi ymwneud yn sylweddol â'r diwydiant dur, gan gynnwys cyfarfodydd gyda Liberty Steel a'i gystadleuwyr Tata a Celsa".

Ychwanegodd: "Yn benodol, er ei bod wedi bod yn beth amser ers i chi adael y swydd ym mis Rhagfyr 2018, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod gennych fynediad at wybodaeth fasnachol a allai fod yn hynod sensitif.

"Rhoddodd y pwyllgor bwys ar farn Llywodraeth Cymru bod hyn yn berthnasol i'r diwydiant dur, a sefydliadau partner GFG (yn hytrach na'r sector ynni).

"Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn ei bod yn berthnasol bod yr Adran wedi cadarnhau y byddai gennych fynediad at wybodaeth fasnachol sensitif sy'n gysylltiedig â'r sector dur o'ch amser yn y swydd."

Dywedodd y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes fod "risgiau'n gysylltiedig â'ch gwybodaeth am y diwydiant dur" ond nododd fod Mr Jones wedi disgrifio ei rôl "fel un sy'n gyfyngedig i ddarparu cyngor i SIMEC ar faterion ynni... ni fydd gennych unrhyw ran wrth weithio yn y diwydiant dur pan yn cynghori SIMEC".

Ond mewn llythyr a anfonwyd ar 16 Hydref, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes, yr Arglwydd Pickles, ei fod yn "bryderus" i glywed am aelodaeth Carwyn Jones o fwrdd GFG Alliance "oherwydd nad yw'n ymddangos ei fod, ar yr wyneb, yn cyfyngu ar y cyngor rydych yn ei ddarparu, nid dim ond i SIMEC".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nododd y pwyllgor y byddai Carwyn Jones wedi ymwneud yn sylweddol â'r diwydiant dur

Er gwaethaf fod Mr Jones yn mynnu ei fod yn cael ei gyflogi gan SIMEC a'i fod wedi cymryd camau i sicrhau y bydd yn "cael ei wrthod o faterion yn ymwneud â dur", daeth y pwyllgor i'r casgliad ar 6 Tachwedd bod rôl Mr Jones gyda GFG Alliance "yn groes i'w gyngor" gan arwain at dorri'r cod gweinidogol.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn y Western Mail, dywedodd Carwyn Jones: "Dilynais y cyngor a roddodd y pwyllgor hwn ac roeddwn yn synnu derbyn y llythyr hwn gan Eric Pickles. Byddai'n well gennyf eu bod wedi dweud na ar y dechrau.

"Nid oes gan y broses unrhyw reolau, dim hawl i wrandawiad, dim apêl a dim proses gwyno.

"Gadawaf ar bobl i farnu a yw hon yn broses deg a thryloyw.

"Gadewch i ni gofio nad oedd Boris Johnson wedi trafferthu gofyn am gyngor yn 2018 pan ymgymerodd â swydd â chyflog da iawn gyda'r Telegraph."

Proses 'gyfrinachol'

Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru: "Mae'r broses wedi bod mor gyfrinachol nes i mi gael fy ngorfodi i gyhoeddi sawl cais rhyddid gwybodaeth i gael gwybodaeth."

Ers camu o'r neilltu fel prif weinidog, mae rhestrau cofrestr diddordebau Carwyn Jones yn dangos ei fod wedi derbyn gwaith â thâl fel athro'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, cynghorydd i Spectrum Internet, ac ymgynghorydd i'r cwmni cyfryngau Business News Wales.

Mae wedi bod yn gynrychiolydd Llafur dros Ben-y-bont ar Ogwr yn y Senedd ers 1999, ond ni fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad nesaf yn 2021.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes ac y byddant yn ymateb maes o law.