Pontcysyllte: Bwriad i weddnewid safle treftadaeth y byd

  • Cyhoeddwyd
PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pontcysyllte yn draphont i gychod dros ddyffryn Afon Dyfrdwy i'r dwyrain o Langollen

Mae'n ymddangos y bydd ymwelwyr â safle treftadaeth y byd yng ngogledd Cymru yn elwa o ailwampiad mawr o'r ardal.

Mae yna gynlluniau ar gyfer canolfan ymwelwyr ynghyd â gwell seilwaith ar gyfer cychod masnachol a chychwyr preifat yn ardal traphont ddŵr Pontcysyllte.

Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd - sy'n gofalu am 2,000 milltir o ddyfrffyrdd - sydd y tu ôl i'r cynlluniau.

Mae cynghorwyr Wrecsam wedi cael eu hargymell i gymeradwyo'r gwaith.

Cafodd y cynllun ei ddylunio i sicrhau bod yr ardal o amgylch y basn a'r draphont ddŵr yn gallu darparu ar gyfer nifer cynyddol o ymwelwyr.

Ers dod yn safle treftadaeth y byd yn 2009, mae nifer yr ymwelwyr wedi tyfu i 363,000 yn 2019.

Ond mae'r cynllun yn amlinellu'r "rheidrwydd i wella'r cynigion a'r seilwaith annigonol i ymwelwyr ym Masn Trefor i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ymwelwyr a gwasanaethu'r cymunedau o amgylch [safle treftadaeth y byd]".

Bydd y gwaith yn cynnwys mwy o barcio, canolfan ymwelwyr newydd, ail-droi rhywfaint o dir, taith gerdded ar draed a chreu maes gwersylla.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol