Llys Apêl yn cytuno bod cais cynllunio o 1967 yn annilys
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llys Apêl wedi dyfarnu nad yw caniatâd cynllunio 53 oed ym Mharc Cenedlaethol Eryri bellach yn ddilys.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad o dros 400 o dai yn Aberdyfi wedi ei ddirymu.
Roedd cwmni datblygu Hillside Parks Limited wedi defnyddio cais cynllunio gafodd ei roi dros 50 mlynedd yn ôl fel rheswm dilys i adeiladu 401 o dai yn Aberdyfi.
Cyngor Sir Meirionydd oedd wedi rhoi'r caniatâd yn 1967 ar gyfer stad o dai yn ardal Balkan Hill, ond yn y 70au fe beidiodd yr awdurdod â bod.
Ers i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo dros 50 o flynyddoedd yn ôl, dim ond 27 o dai sydd wedi cael eu hadeiladu ar y safle yn dilyn amryw ganiatâd cynllunio dilynol.
Mae'r datblygiadau dilynol hyn, sydd wedi bod yn digwydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, wedi gwyro i'r fath raddau o'r cydsyniad gwreiddiol fel bod Awdurdod Y Parc Cenedlaethol yn ei ystyried yn annilys.
Fe wnaeth y datblygwr gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Awdurdod Y Parc Cenedlaethol, a daeth yr achos i'r llysoedd ym Medi 2019.
Cafwyd penderfyniad o blaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Hydref 2019 ac fe gafodd y caniatâd cynllunio gwreiddiol ei ddiddymu.
Mae'r penderfyniad nawr wedi ei gadarnhau gan y Llys Apêl.
'Ansicrwydd sylweddol'
Dywedodd Jonathan Cawley, cyfarwyddwr cynllunio a rheolaeth tir Awdurdod y Parc Cenedlaethol, eu bod yn "croesawu'r penderfyniad gan y Llys Apêl".
"Roedd ansicrwydd sylweddol ynglŷn â'r safle a sut y byddai'n datblygu," meddai.
"Nid yw yr un o'r 27 o dai sydd wedi eu hadeiladu ar y safle yn cydymffurfio a'r cynllun gwreiddiol, ac roedd hyn yn codi nifer o gwestiynau difrifol o ran beth fyddai'n cael ei ddatblygu ar y safle yn y dyfodol.
"Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r dryswch a'r ansicrwydd o gylch y cynllun hanesyddol hwn.
"O ganlyniad bydd rhaid i unrhyw ddatblygiad yn yr ardal yn y dyfodol gydymffurfio a'r Cynllun Datblygu Lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019