Wylfa: Dyfalu fod cwmni o'r UDA yn arwain consortiwm

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn fwriad i atomfa Wylfa Newydd ddechrau cynhyrchu erbyn canol y ddegawd

Mae cwmni peirianyddol Bechtel o'r Unol Daleithiau wedi gwrthod cadarnhau adroddiadau mai nhw yw'r cwmni sy'n arwain consortiwm gyda'r bwriad o ailddechrau prosiect Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Fe wnaeth y gwaith ar Wylfa Newydd gael ei atal yn Ionawr 2019, gyda Hitachi yn cadarnhau nad oeddynt am barhau â'u diddordeb yn y cynllun £20bn.

Dyw Bechtel heb gadarnhau fod constortiwm wedi gwneud cynnig ar gyfer y safle, nag eu rôl yn y consortiwm, ond fe wnaeth llefarydd gadarnhau eu bod wedi bod yn ymwneud â phrosiect Wylfa Newydd o'r cychwyn cyntaf.

"Rydym wedi ymroi i weithio gyda'n partneriaid yn y DU a thramor er mwyn darparu yr atebion ar gyfer cynhyrchu ynni glan i filiynau o gartrefi," meddai'r cwmni wrth BBC Cymru.

Eisoes mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ymestyn y dyddiad ynglŷn â rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun i 31 Rhagfyr - y dyddiad cau gwreiddiol oedd 30 Medi.

Dywed Bechtel mai'r safle ar Ynys Môn fyddai'r dewis cyntaf i nifer ar gyfer safle atomfa newydd "gan helpu'r DU i gyrraedd carbon sero" a rhoi hwb i gapasiti rhwydwaith gyflenwi niwclear y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymroi i adeiladu nifer o orsafoedd niwclear fel modd o sicrhau lefelau carbon isel wrth gynhyrchu trydan.

Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun yr wythnos nesa yn amlinellu sut y maent am gyrraedd targed o sero o allyriadau erbyn 2050.

Mae yna chwech o safleoedd wedi eu dewis ar gyfer atomfeydd posib yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Horizon Nueclar Power sy'n gyfrifol am ddatblygu safle Wylfa Newydd

Hyd yma dim ond Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf sydd yn y broses o gael ei adeiladu - mae tri o brosiectau eraill wedi eu hatal oherwydd diffyg buddsoddiad.

Mae Horizon Nuclear Power - datblygwyr safle Wylfa Newydd - wedi gwrthod rhoi unrhyw fanylion am y cwmnïau sy'n rhan o'r trafodaethau newydd gan fod y rhain mewn cyfnod "sensitif".

Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa yn cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.