45 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 45 yn rhagor o bobl wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru, sy'n golygu bod y cyfanswm bellach yn 2,108.
Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe wnaeth 928 o bobl brofi'n bositif ar gyfer coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae cyfanswm o 62,284 prawf positif wedi bod yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Roedd 13 o'r marwolaethau diweddaraf yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gyda 10 yr un yng Nghwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe.
Cafodd pump o farwolaethau eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Cafodd 8,297 yn rhagor o brofion eu cynnal ddydd Mawrth.
Achosion yn atomfa Trawsfynydd
Daeth cadarnhad ddydd Mercher bod achosion Covid-19 wedi'u cadarnhau ymhlith staff gorsaf niwclear Trawsfynydd.
Dywedodd Magnox, y cwmni sy'n rhedeg y safle, fod nifer o weithgareddau'n cael eu cwtogi ar y safle wedi i "nifer fach" o weithwyr brofi'n bositif am coronafeirws.
Ychwanegodd bod gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG wedi cysylltu ag aelodau staff sy'n byw yn lleol yn gofyn iddyn nhw hunan-ynysu.
Mae gweithwyr eraill a all fod wedi dod i gysylltiad gyda'r feirws wedi cael eu gofyn i gadw draw o'r safle i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint.
Bydd gweithgareddau craidd yn parhau i gynnal y safle, ond bydd nifer y staff yno'n lleihau'n raddol wrth i rai weithio o adref ble mae hynny'n bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020