Galw am ailystyried diswyddiadau Prifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y brifysgol mai 100 o swyddi sydd dan fygythiad erbyn hyn

Mae Cymdeithas yr Iaith a rhai o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor wedi galw ar y sefydliad i ailystyried diswyddiadau o fewn yr adran.

Mae BBC Cymru ar ddeall y gallai dwy swydd darlithydd llawn amser gael eu colli os yw'r broses ymgynghori'n llwyddo.

Yn ôl un gyn-fyfyrwraig mae'r cynlluniau sydd ar y gweill yn "warthus" ac mae "angen ailystyried".

Mewn datganiad dywedodd y brifysgol eu bod nhw'n ceisio ymateb i her y pandemig rhyngwladol a'u bod nhw bellach yn ceisio gwneud toriadau o 100 o swyddi, nid 200, fel y cafodd ei grybwyll ym mis Hydref.

'Effaith ddinistriol'

Yn un o ysgolion academaidd hynaf y brifysgol, fe sefydlwyd yr adran Gymraeg ym 1889, gyda sawl llenor ac academydd adnabyddus yn astudio a dysgu yno dros y blynyddoedd.

Ond yn ôl ymgyrchwyr fe allai'r cynnig diweddaraf gael "effaith ddinistriol ar y ddarpariaeth" i gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

"Fe fyddai toriadau o'r math hyn yn ergyd enfawr i'r enw da haeddiannol hwn," meddai Tony Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

"O ystyried pwysigrwydd ieithyddol yr adran yn y gogledd-orllewin, yng Nghymru a hefyd yn rhyngwladol, byddai cyflwyno'r toriadau hyn yn weithred gwbl fyrbwyll a niweidiol i'r Brifysgol, yr iaith a'r gymuned ehangach", meddai.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod sawl cyn-fyfyriwr bellach wedi ysgrifennu at y brifysgol i fynegi pryderon am effaith posib y toriadau gyda nifer yn galw ar y sefydliad i ailystyried.

'Am i'r arbenigedd fod yna'

Mi fuodd Siân Llywelyn yn astudio cwrs israddedig ac ôl-raddedig rhwng 1998- 2001 ac mae hi rŵan yn gobeithio dychwelyd i ysgol y Gymraeg er mwyn dilyn cwrs doethuriaeth.

Mae hi'n poeni am effaith posib y toriadau:

"Yn y lle cyntaf roeddan nhw eisiau torri staff adran y Gymraeg ym Mangor o 40% - pam fydden nhw am gael gwared ar y ffasiwn arbenigedd? Ond hyd yn oed os ydyn nhw yn penderfynu cael gwared ar un, da chi'n sôn am golli degawdau o arbenigedd.

"Dwi'n bwriadu mynd yn ôl yna ym mis Medi i wneud cwrs doethuriaeth mewn sgwennu creadigol sydd yn gwrs hynod hynod o boblogaidd, a wedi bod ers blynyddoedd, a dwi eisiau i'r arbenigedd yna fod yno, os dwi'n bwriadu talu £12,500 dros gyfnod o dair blynedd, dwi eisiau i'r arbenigedd fod yna.

"Os ydach chi'n colli hyd yn oed 20%, mae hynny gyfystyr ag un aelod o staff...mae na ddegawdau o arbenigedd yn fan yna. Dwi yn bryderus."

Ychwanegodd: "Dwi ddim eisiau difrïo y staff sydd ddim y mynd i golli eu swyddi - dwi ddim yn dweud nad ydy'r arbenigedd ganddyn nhw - ond rydych chi eisiau sicrhau ffyniant drwy gynnal adran a sicrhau fod y staff yn dal yna."

'Ymdrin â heriau'r pandemig'

Mewn datganiad fe ddywedodd Prifysgol Bangor eu bod yn "bwrw iddi yn weithredol ac yn broffesiynol" wrth ymdrin â'r heriau y mae'r pandemig wedi eu gosod.

Fis Hydref fe gyhoeddodd y brifysgol y byddai'n rhaid gwneud toriadau o 200 o staff oherwydd sgîl effeithiau'r pandmeig a diffygion ariannol.

Yn ôl y brifysgol mae'r ffigwr hwnnw bellach wedi lleihau i 100 o swyddi, llawn amser, yn dilyn llwyddiant recriwtio diweddar, a'r broses o ddiswyddiadau gorfodol.