Covid: Pedair cenedl y DU yn trafod dilyn yr un canllawiau dros Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Shoppers

Mae trafodaethau wedi cymryd lle rhwng pedair cenedl y Deyrnas Unedig yn ymwneud â dilyn yr un canllawiau Covid-19 dros adeg y Nadolig.

Cynhaliodd gweinidogion yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon cyfarfod rithiol gyda gweinidog Swyddfa'r Cabinet Michael Gove ac uwch-swyddogion eraill.

Y cyfarfod cyntaf oedd hyn o beth mae gweinidogion y DU yn gobeithio bydd cyfarfodydd wythnosol.

Dywedodd ffynonellau o Lywodraeth y DU cafodd pynciau yn cynnwys teithio rhyngwladol, profion a rhestr blaenoriaeth ar gyfer brechiadau eu trafod.

Cymerodd Nicola Sturgeon, Mark Drakeford ac Arlene Foster rhan yn y cyfarfod, yn ogystal ag Ysgrifennydd yr Alban Alister Jack, Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Brandon Lewis.

Dywedodd Mr Gove cydnabyddodd pawb bod teuluoedd ar draws Prydain "eisiau gweld eu teulu a ffrindiau dros y Nadolig".

Ychwanegodd: "Heddiw cwrddodd fy nghydweithwyr gweinidogaethol a fi gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i weithio tuag at nod cyffredin ac i helpu sicrhau bod ein ymateb cyfunol yn plesio'r cyhoedd ym mhob rhan o'r DU".