'Methiant hirdymor' yn gyfrifol am farwolaethau trên
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad wedi dod i'r casgliad y bu farw dau weithiwr rheilffordd ar ôl cael eu taro gan drên yn rhannol oherwydd methiant hirdymor Network Rail i wella diogelwch ar y traciau.
Cafodd Gareth Delbridge, 64, a Michael Lewis, 58, eu taro gan drên oedd yn teithio o Abertawe i Lundain ym mis Gorffennaf 2019.
Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) bod y trên wedi dod yn "agos iawn" at daro trydydd gweithiwr yn y digwyddiad ym Margam, Port Talbot.
Roedd y gweithwyr yn rhan o grŵp o chwech oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y rheilffordd.
Dywedodd Network Rail bod "newidiadau sylfaenol" wedi'i wneud i leihau'r risgiau i weithwyr ers y digwyddiad.
Yn ei adroddiad, dywedodd yr RAIB bod "methiant hirdymor i wella diogelwch i bobl sy'n gweithio ar y rheilffordd" gan Network Rail yn ffactor yn y marwolaethau.
"Dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, doedd Network Rail ddim wedi gwneud digon i fynd i'r afael â'r angen i ddiogelu gweithwyr ar y traciau rhag y trenau," meddai'r adroddiad.
Fe wnaeth yr adroddiad 11 argymhelliad - naw o'r rheiny wedi'u cyfeirio'n benodol tuag at Network Rail.
'Problemau dyrys a pharhaus'
Dywedodd cyfarwyddwr Network Rail ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau, Billy Kelly bod y cwmni wedi cyflawni "newidiadau sylfaenol" i'r ffordd mae'n gweithredu.
"Ry'n ni eisoes wedi haneru faint o waith sy'n cael ei gynnal tra bo'r rheilffyrdd ar agor i drenau, ac yn bwriadu lleihau hynny'n sylweddol eto erbyn 2022," meddai.
"Mae tasglu diogelwch, sydd â dros 100 o aelodau, hefyd wedi'i sefydlu i gyflawni rhagor o welliannau o ran diogelwch ar y rheilffordd."
Dywedodd y prif archwilydd damweiniau rheilffordd, Simon French: "Rwy'n parhau'n obeithiol y bydd y diwydiant yn canfod ffordd i fynd i'r afael â'r problemau dyrys a pharhaus yma.
"Mae 'na synnwyr nawr bod yn rhaid i bethau newid - ry'n ni wedi dod ymhell ers y dyddiau ble roedd damweiniau gyda gweithwyr ar y traciau yn gyffredin.
"Ond nawr mae angen meddwl yn glir am y ffordd orau i leihau'r risg i'n cydweithwyr ymhellach."
'Rhy hwyr i symud'
Yn ôl adroddiad yr RAIB doedd yr un o'r gweithwyr wedi cael eu penodi i edrych am drenau a rhybuddio'r tîm fod un yn nesáu.
"Ry'n ni bron yn sicr bod y gweithwyr i gyd yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw, oherwydd roedd un yn defnyddio offer swnllyd, ac roedden nhw oll yn canolbwyntio ar y dasg," meddai'r adroddiad.
"Doedd yr un ohonynt yn ymwybodol fod y trên yn nesáu nes yr oedd hi'n rhy hwyr i symud i fan diogel."
Roedd y trên yn teithio o gyflymder o tua 50mya pan gafodd y gweithwyr eu taro ganddo.
Roedd gwaith papur yn awgrymu na fyddai'r gwaith yn dechrau tan 12:30 gan mai dyna pryd y byddai'r lein yn cael ei chau, ond fe ddechreuodd y tîm weithio toc cyn 09:00.
Mae'r Swyddfa Rheilffyrdd a Phriffyrdd, sy'n rheoleiddio perfformiad iechyd a diogelwch y diwydiant rheilffordd, wedi dweud y bydd yn parhau gyda'i ymchwiliad ei hun i'r digwyddiad.
Dywedodd y prif archwilydd rheilffyrdd, Ian Prosser: "Mae diogelwch gweithwyr ar y traciau yn flaenoriaeth ac yn y 18 mis cyn y digwyddiad ym Margam fe wnaethon ni gynnal rhagor o ymchwiliadau yn dilyn pryderon cynyddol nad oedd Network Rail yn gwneud digon i reoli'r risg i weithwyr.
"Fe wnaeth yr ymchwiliadau yma arwain at weithredu ffurfiol, ac fe wnaeth Network Rail ymateb trwy ffurfio tasglu sylweddol i sicrhau gwelliannau."
'Rhy ychydig yn rhy hwyr'
Dywedodd Adrian Grant, mab yng nghyfraith Mr Delbridge bod proses reoli Network Rail yn "hynafol iawn" ac angen ei ddiweddaru.
"Er bod yr adroddiad yn mynd i mewn i welliannau a pha reilffyrdd rhwydwaith sy'n ceisio eu gwella, mae'n rhy ychydig yn rhy hwyr i'r ddau deulu hyn," meddai.
"A'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau nad yw'n rhy ychydig yn rhy hwyr i deuluoedd gweithwyr rheilffordd eraill.
"Bu sawl cyfle i'r sector rheilffyrdd wella diogelwch ond mae'n dod lawr i gost. Ond faint o gost allwch chi ei roi ar fywydau pobl?
"Gall teuluoedd fod yn barod ar gyfer aelod o'r teulu sy'n sâl ond aeth y dynion yma i weithio, rhywbeth maen nhw wedi'i wneud ar hyd eu hoes - ond wnaethon nhw byth ddod adref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019