Cyhoeddi adroddiad i farwolaeth dau weithiwr rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Delbridge a Michael LewisFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gareth Delbridge a Michael Lewis yn y digwyddiad ym mis Gorffennaf

Mae Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) wedi cyhoeddi adroddiad cychwynnol i farwolaethau dau weithiwr gafodd eu lladd gan drên ym Margam fis Gorffennaf.

Bu farw Gareth Delbridge, 64 o Fynydd Cynffig, a Michael Lewis, 58 oed o Ogledd Corneli oedd yn gweithio ar y trac pan gafodd y ddau eu taro gan drên.

Roedd y trên wedi gadael gorsaf Port Talbot Parkway ar fore 3 Gorffennaf.

Mae'r adroddiad 21 tudalen yn disgrifio nad oedd person wedi'i benodi i edrych allan a rhybuddio'r tîm o chwech fod trên yn dynesu ar gyflymder o 50 m.y.a.

Hyd yma, mae'r RAIB wedi dod i'r casgliad mai dyma'r prif reswm pam ddigwyddodd y ddamwain.

Yn y gwaith papur yn ymwneud â chynllunio'r gwaith, doedd y gwaith ddim i fod i ddechrau tan 12:30 gan mai dyna pryd y byddai'r lein yn cael ei chau. Fe ddechreuodd y tîm weithio am 08:50 serch hynny.

Mae ymchwilwyr i'r digwyddiad "bron yn bendant" fod y gweithwyr yn gwisgo gorchuddion clustiau gan eu bod yn defnyddio offer swnllyd ar y pryd.

Yn ôl y RAIB, mae elfennau eraill o'r ddamwain angen ei ymchwilio, gan gynnwys ymddygiad y grŵp, y cynllunio a'r gwaith papur, archwiliad diogelwch a'r dewis a hyfforddiant y gweithwyr.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.