Dirwyo 50 am dorri rheolau Covid mewn parti prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Metropolitan CaerdyddFfynhonnell y llun, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae dros 50 o bobl wedi cael eu dirwyo am dorri rheolau coronafeirws trwy fynychu parti mewn neuadd breswyl prifysgol.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw yn dilyn adroddiadau fod nifer o bobl wedi ymgynnull ar nos Wener 6 Tachwedd, pan oedd rheolau'r clo byr diweddar yn dal mewn grym.

Yn ôl yr heddlu roedd "dwsinau" o bobl yno a cherddoriaeth uchel yn cael ei chwarae.

Cymerwyd manylion pob un, a chafodd 52 eu dirwyo yn ddiweddarach. Mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau mewn perthynas â phedwar arall.

Disgrifiad,

Fideo Heddlu'r De yn dangos yr hyn ddigwyddodd wrth i swyddogion gyrraedd y neuadd breswyl

Dywedodd yr uwch-arolygydd Jason Rees "Mae'n anffodus nad oedd gan ein swyddogion unrhyw ddewis ond dirwyo pobl am anwybyddu rheolau coronafeirws, a'u hiechyd eu hunain, eu cyfoedion a'r gymuned, trwy un ai gynnal, neu fynychu'r parti yma.

"Rydym wedi bod yn glir o'r cychwyn y byddwn yn cymryd camau gorfodi lle bo'u hangen, ac wrth dorri rheolau fel hyn nid oedd dewis arall gennym."

'Dim cwynion'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Met Caerdydd eu bod yn cymryd tor-rheolau Covid-19 o ddifrif.

"Mae'n siomedig fod nifer fechan o fyfyrwyr wedi dewis ymddwyn yn y modd yma pan fod y mwyafrif llethol yn glynu at y rheolau.

"Mae nifer yr achosion positif yn Met Caerdydd yn dal yn isel, gyda llai na 10 achos newydd yn y saith diwrnod diwethaf," meddai.

Yn siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dywedodd y gweinidog iechyd na ddylai fod gan y rhai oedd yna "unrhyw gwynion" am y dirwyon.

"Mae'r rheolau'n glir iawn, ac mae digwyddiad o'r maint yna o fewn ty yn amlwg yn torri'r rheolau, ac mae angen iddyn nhw edrych ar yr hyn maen nhw'n ei wneud," meddai Vaughan Gething.