Atafaelu car ac offer i atal rêf anghyfreithlon posib
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi atafaelu cerbyd ac offer chwarae cerddoriaeth yng Ngwynedd wedi adroddiadau bod yna fwriad i gynnal rêf anghyfreithlon yno y penwythnos hwn.
Cafodd y cerbyd a'r offer eu hawlio yn ardal Llanberis nos Wener mewn ymateb i hysbyseb oedd wedi ymddangos ar Instagram.
Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth ynghylch y digwyddiad arfaethedig ar y penwythnos cyntaf wedi i'r clo byr ddod i ben yng Nghymru, gan rybuddio bod yn gosb ariannol lem.
Dywed y llu: "Mae digwyddiadau o'r fath yn peryglu diogelwch - byddwn yn cymryd camau cadarn ac yn gorfodi deddfwriaeth Covid."
Mae'n anghyfreithlon yn gyffredinol i drefnu digwyddiad tu allan gyda mwy na 30 o bobl.
Ym mis Awst fe gafodd wyth o bobl ddirwyon o hyd at £10,000 am gynnal rêf anghyfreithlon ar gyrion Bannau Brycheiniog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020