Dau o dîm Iwerddon yn cael prawf positif am Covid

  • Cyhoeddwyd
James McCleanFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ddau chwaraewr yw James McClean

Mae dau o chwaraewyr pêl-droed tîm Gweriniaeth Iwerddon wedi cael profion positif am coronafeirws.

Roedd y ddau - Matt Doherty a James McClean - yn rhan o'r tîm a drechwyd gan Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sul.

Er gwaetha'r profion, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud na fydd hyn yn cael effaith ar eu paratoadau ar gyfer gêm bwysig nos Fercher yn erbyn Y Ffindir yng Nghaerdydd.

Mae Cymru angen o leia' gêm gyfartal er mwyn ennill eu grŵp yn y gystadleuaeth a chael dyrchafiad i Adran A.

Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas: "Mae'r Gymdeithas yn ymwybodol fod dau o chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon fu'n rhan o gêm neithiwr wedi profi'n bositif am Covid-19.

"Nid yw paratoadau'r tîm cenedlaethol ar gyfer y gêm Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Y Ffindir wedi cael eu heffeithio.

"Bydd y Gymdeithas yn parhau i lynu at ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a UEFA, ynghyd â phrotocol mewnol sydd wedi bod mewn lle ers ailddechrau pêl-droed rhyngwladol eleni."