Gangiau cyffuriau yn 'recriwtio plant mewn gofal'
- Cyhoeddwyd
Gallai'r pandemig olygu bod rhai plant mewn gofal yng ngogledd Cymru yn cael eu denu i "fodel newydd" o werthu cyffuriau, yn ôl ymchwil diweddar.
Mae'r astudiaeth i Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd yn awgrymu bod gangiau cyffuriau yn anfon llai o blant o ddinasoedd mawr i ddosbarthu'r cyffuriau, gan ddefnyddio mwy ar blant lleol.
Ac mae 'na bryder bod rhai cynghorau "a'u pennau yn y tywod" ar y mater, yn ôl yr ymchwilwyr.
"Mae'r astudiaeth yn dangos bod plant mewn gofal yn cael eu defnyddio i recriwtio plant lleol i wneud y gwaith yma," medd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
"Mae angen canolbwyntio mwy ar blant mewn gofal a'u diogelu nhw gymaint ag ydan ni'n diogelu plant eraill."
Fe wnaeth asiantaeth Crest Advisory, sy'n gwneud gwaith ymchwil ar faterion trosedd a chyfraith, holi swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Mersi fel rhan o brosiect ehangach yn edrych ar 'county lines' a phlant mewn gofal.
Dywedodd Joe Calouri o'r asiantaeth wrth raglen Newyddion S4C bod grwpiau troseddol eisoes yn gorfod addasu i waith yr heddlu, ond bod y pandemig wedi cynyddu a chyflymu'r duedd tuag at recriwtio lleol yng ngogledd Cymru.
"Maen nhw wedi ymateb trwy recriwtio'n lleol," meddai.
"Ac oherwydd technoleg apiau a chyfryngau cymdeithasol, mae'n hawdd iawn i gangiau ddenu plant heb hyd yn oed eu cyfarfod nhw a'u rheoli nhw trwy apps cyfryngau cymdeithasol."
'Dim tystiolaeth o gynllunio rhagweithiol'
Yn ogystal â gofalu am blant a phobl ifanc o'r gogledd, mae nifer o gartrefi gofal yn y rhanbarth yn derbyn plant o du allan i Gymru, yn cynnwys rhai o ddinasoedd mawr Lloegr.
Ond mae'n bosib nad ydy cynghorau'r gogledd yn gwybod a oes plant o awdurdod arall yn aros yn y dalgylch.
Fe ddywedodd nifer o gynghorau wrth BBC Cymru na fyddai ganddyn nhw wybodaeth fanwl ar hyn gan mai'r awdurdod lleol sy'n anfon y plentyn sydd i fod â'r wybodaeth.
Dywedodd un cyngor: "Yn aml dydyn ni ddim yn cael gwybod gan yr awdurdod perthnasol."
Yn ôl Mr Calouri, wnaeth awdurdodau lleol unigol gogledd Cymru ddim ymateb i'r gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil.
"Mae arnom ni ofn falle bod awdurdodau lleol a'u pennau yn y tywod rhyw fymryn ar hyn ac yn dal i'w gweld fel problem o'r tu allan yn hytrach na fel problem sydd angen iddyn nhw ddelio â hi'n lleol ac sy'n fygythiad i blant lleol," meddai.
"O ddarllen dogfennau'r bwrdd diogelu [plant] lleol, dydyn ni ddim yn gweld llawer o dystiolaeth o gynllunio rhagweithiol ar gyfer y peryglon, na dealltwriaeth o beth ydy'r peryglon.
"'Dyn ni wedi gweld mewn rhannau eraill o'r wlad sut, wrth i gangiau recriwtio yn fwy lleol a dibynnu llai ar symud plant dros ffiniau, dros amser mae lefelau trais yn cynyddu gyda gangiau 'cod post' yn ffurfio ac mae'n aml yn arwain at drais eithafol yn cynnwys llofruddiaeth mewn rhai achosion.
"Mae gan ogledd Cymru'r cyfle i atal hyn rhag digwydd, ond i wneud hynny mae angen iddyn nhw gydnabod y bygythiad county lines a gweithredu'n lleol, yn hytrach na'i drin fel problem sydd wedi dod i mewn o Lannau Mersi."
Ychwanegodd y Sarjant Manon Roberts o Heddlu Gogledd Cymru bod plant sy'n cael eu recriwtio i gangiau cyffuriau "mewn perygl ofnadwy".
"Yn aml dydy'r bobl ifanc yma ddim yn gwybod pa mor beryglus ydy o," meddai.
"'Dyn ni'n poeni'n ofnadwy eu bod nhw'n cael eu denu mewn i batrwm o droseddu."
'Y gwahoddiad ddim yn un swyddogol'
Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a'r heddlu.
Dywedodd llefarydd: "Dydy'r gwahoddiad i gymryd rhan yn ymchwil Crest ddim wedi ei gyflwyno'n swyddogol i Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru.
"Rydym yn gobeithio y bydd ein cydweithwyr yn yr heddlu yn cyflwyno'r ymchwil i ni ac y byddwn yn medru rhoi gwybodaeth i chi ar ôl y cyflwyniad hwn.
"Mae pob asiantaeth ar draws Cymru yn dilyn Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer 'Plant sy'n mynd ar goll neu'n diflannu o gartref gofal'.
"Rydym yn ymwybodol bod gwaith yn digwydd gydag Uned Diogelu ac Eiriolaeth Llywodraeth Cymru a Phenaethiaid Gwasanaethau ar draws Cymru i addasu'r canllaw ymhellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019