Pam fod mwy o farwolaethau Covid-19 yn y Cymoedd?

  • Cyhoeddwyd
Cymoedd
Disgrifiad o’r llun,

Cymoedd de-ddwyrain Cymru ydy'r ardal sydd wedi'i daro waethaf gan coronafeirws trwy Gymru

Mae awgrym y gallai'r math o swyddi sy'n gyffredin yn y Cymoedd fod yn rhannol gyfrifol am lefelau uchel Covid-19 yno.

Cymoedd de-ddwyrain Cymru sydd wedi eu taro waethaf gan coronafeirws trwy Gymru.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae cyfradd o 167 marwolaeth i bob 100,000 o'r boblogaeth dros gyfnod y pandemig.

Merthyr Tudful gerllaw sydd â'r ail gyfradd uchaf - 146 i bob 100,000.

'Galwedigaeth yn ffactor pwysig'

A gydag achosion yn yr ardaloedd wedi bod yn uchel yn ddiweddar, mae 'na ofid y gallai rhagor o bobl golli eu bywydau.

Awgrymodd Dr Rhian Daniel, ystadegydd iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, mai un o'r rhesymau bod y Cymoedd wedi'u taro waethaf ydy oherwydd y math o waith sy'n cael ei gyflawni gan bobl y rhanbarth.

Mae cyfradd uwch o bobl y Cymoedd yn gweithio ym maes gofal, neu mewn ffatrïoedd - dau o'r diwydiannau ble mae cyfraddau uwch o weithwyr wedi cael Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Rhian Daniel mae achosion yn fwy cyffredin ymysg staff gofal a gweithwyr ffatri

"Beth y'n ni'n gweld gyda Covid-19 yw bod, er enghraifft, y gyfradd yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr tua pump neu hyd yn oed 10 gwaith yn fwy na beth yw e yn Sir Benfro a Cheredigion," meddai.

"Felly ni'n gweld gwahaniaeth mwy llydan, ac y cwestiwn wedyn wrth gwrs yw pam?

"Heb os mae hap yn mynd i fod yn ffactor bwysig, ond wrth gwrs mae'n siŵr o fod bod 'na ffactorau mwy strwythurol hefyd.

"Un o'r rhai pwysig yn fy marn i ydy galwedigaeth. Mae'r categori ble mae swyddi gofal yn cael eu cynnwys - mae'r gyfradd yn uwch fan yna.

"Hefyd mae categori eithaf bras - swyddi elfennol, sy'n cynnwys pobl sy'n gweithio mewn ffatrïoedd er enghraifft - ac mae'r gyfradd yn uwch fan yna na'r rhan fwyaf o gategorïau eraill."

Incwm is yn ffactor

Ychwanegodd Dr Daniel bod y ffigyrau hefyd yn awgrymu bod pobl ag incwm is yn fwy tebygol o gael y feirws.

"Roedd cyfraddau uwch yn y categorïau oedd yn cynnwys swyddi sy'n ymwneud gyda'r cyhoedd, ond hefyd categorïau oedd yn cynnwys swyddi gyda thâl is," meddai.

"Falle bod hynny hefyd yn gysylltiedig ag amodau byw, hefyd y ffordd chi'n teithio i'r gwaith. Yn sicr mae'n ddarlun cymhleth."

Disgrifiad,

Wyres Iris, Molly, fu'n hel atgofion amdani, ac yn rhybuddio teuluoedd eraill am beryglon coronafeirws

Dwyrain Porth ac Ynyshir sydd wedi gweld y gyfradd uchaf o farwolaethau gyda'r feirws drwy Gymru gyfan, a fis diwethaf, fe gollodd y gymuned aelod arall i'r feirws - Iris Davies, 69.

Ar ôl cael ei thrin am gyflyrau eraill ym mis Medi, fe wnaeth hi brofi'n negyddol ddwywaith am Covid-19.

Ond ar ôl dod adref cafodd ei tharo'n wael, ac wedi iddi fynd 'nôl i'r ysbyty, fe wnaeth hi brofi'n bositif a bu farw'n ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Yn ôl ei wyres, Molly, 23, mae hi'n aneglur ble wnaeth ei mam-gu ddal y feirws.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly wedi galw ar bobl i fod yn ofalus yn dilyn marwolaeth ei mam-gu, Iris

"Mae'n pointless chwarae'r blame game - mae'r hyn sydd wedi digwydd wedi digwydd, a ni methu pinpointio fe, a dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny'n helpu," meddai.

"Roedden ni wedi gwneud cymaint i protectio hi dros y misoedd diwethaf.

"Roedden ni wedi cymryd y precautions i gyd - wedi stopio mynd i'w thŷ hi - ond mae hyn yn dal wedi digwydd.

"Dyw'r sefyllfa ddim yn un neis, a ni ddim eisiau i unrhyw un fynd trwy hynny.

"Dwi jest eisiau pobl ddeall - safety first."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Llŷr Evans dderbyn ocsigen yn yr ysbyty am ddiwrnodau ar ôl cael Covid-19

Hyd yn oed i'r rheiny sy'n llwyddo i oroesi coronafeirws, mae effeithiau hirdymor yn bosib.

Cafodd Llŷr Evans o Droedyrhiw ei daro'n wael 'nôl ym mis Mawrth, ac er nad oedd yn teimlo'n rhy ddrwg i ddechrau, o fewn ychydig dros wythnos aeth i'r ysbyty gyda phroblemau'n cael ei anadl.

Bu'n cael ei drin yn Ysbyty'r Tywysog Charles am bedwar diwrnod, ond hyd yn oed wedi iddo gael ei yrru adref fe wnaeth y feirws fwrw'r gwynt o'i hwyliau.

"Rwy'n seiclo dros 3,000 o filltiroedd y flwyddyn, wedi mynd lan y Tourmalet ac Alpe d'Huez, ac felly o'n i byth yn meddwl y byswn i'n cael fy nharo mor dost - o'dd e wir yn sioc," meddai.

"Mae Covid yn beth go iawn - mae'n glefyd difrifol iawn, ac rwy'n adnabod pobl wnaeth farw ar ôl ei gael e.

"Mae'n rhaid i chi gymryd e o ddifrif."