Cyflwynwyr newydd i raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai Dylan Jones a Nia Thomas ydy cyflwynwyr newydd rhaglen newyddion Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.
Fe gadarnhaodd y gorfforaeth y bydd Dylan Jones yn cyflwyno o ddydd Mawrth i ddydd Gwener yn y flwyddyn newydd a Nia Thomas fydd wrth y llyw ddydd Llun.
Mae Dylan Jones wedi bod yn cyd-gyflwyno rhaglen foreol Post Cyntaf ar yr orsaf gyda Kate Crockett ers wyth mlynedd.
Mae'r BBC bellach yn chwilio am gyflwynydd newydd i Post Cyntaf ac mae'r gorfforaeth wedi cyhoeddi hysbyseb ar gyfer y swydd honno.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fis Hydref fe gyhoeddodd BBC Radio Cymru nifer o newidiadau i'w hamserlen, a fydd yn dod i rym yr wythnos hon.
Bob bore Gwener, gan gychwyn ar 20 Tachwedd, bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn cyflwyno rhaglen fyw newydd rhwng 09:00 a 11:00.
Mae Hanna Hopwood Griffiths yn ymuno â'r orsaf fel cyflwynydd rhaglen newydd ar nos Fawrth, a bydd rhaglen gyda'r hwyr Ffion Emyr yn cael ei darlledu ar nos Wener yn ogystal ag ar nos Sadwrn.
Mae'r rhaglenni sy'n cael eu darlledu ar hyn o bryd am 18:00 rhwng nos Lun a nos Iau - Stiwdio, Dei Tomos, Cofio a Beti a'i Phobl - yn symud i 21:00 dan y drefn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020