Ymweliadau cartrefi preswyl 'yn achosi trawma' i deuluoedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y trawma o beidio gallu ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal ar ddiwedd eu hoes yn aros gyda theuluoedd am flynyddoedd, meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Daw sylwadau Helena Herklots ar ôl i deulu Jack Lazarus, 83 oed, ddweud na chawsant ei weld cyn ei farwolaeth.
Bu'r cyn-blismon farw fis yn ôl yng nghartref Glanffrwd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cael ei redeg gan HC-One.
Dywed HC-One na chafodd ymweliadau eu caniatáu gan nad oedden nhw'n credu ar y pryd fod Mr Lazarus ar fin marw.
Roedd gan Mr Lazarus, oedd yn blismon gyda Heddlu De Cymru am 30 o flynyddoedd, gyflwr Alzheimer's ac fe symudodd i Glanffrwd ddiwedd 2019.
Dywedodd ei wraig, Sandra Lazarus, iddi dorri ei chalon pan symudodd i Glanffrwd, ond fod ei gyflwr wedi dirywio gymaint fel nad oedd dewis.
Cyn cyfnod Covid dywedodd ei bod yn ymweld ag ef bob prynhawn, gan gael paned a gwylio ffilm.
Cafodd ymweliadau eu canslo yno ym mis Mawrth oherwydd Covid.
Fe gafodd ymweliadau yn yr awyr agored eu caniatáu yn yr haf, ond fe gafodd sir Pen-y-bont ei rhoi dan fesurau clo ym mis Medi, gyda chyfyngiadau newydd mewn grym.
Dywedodd teulu Mr Lazarus eu bod yn gallu ei wylio drwy ffenestr ond nad oedd yn gallu eu clywed yn dda gan ei fod yn drwm ei glyw.
Dywedodd y teulu fod y sefyllfa yma wedi gwneud pethau'n anodd iddo gan nad oedd yn deall beth oedd yn digwydd.
Ar 19 Hydref cafodd ei anfon i'r ysbyty ar frys gyda thymheredd uchel gan ddychwelyd i'r cartref yng nghanol y nos.
Dwy awr yn ddiweddarach cafodd ei ferch, Claire alwad ffôn gan y cartref yn dweud ei fod wedi marw.
Dywedodd Sandra ei bod yn gwybod nad oedd gan Jack amser hir ar ôl, ond fod y ffaith iddi fethu â ffarwelio yn iawn wedi gwneud pethau'n llawer gwaeth.
Fe gafodd Sandra a Claire ganiatâd i fynd i'r cartref ar ôl iddo farw.
"Roedd e'n brofiad ofnadwy, na'i byth anghofio," meddai Claire.
"Bu'n rhaid i ni wisgo offer PPE llawn ac mae rhoi cusan i riant marw tra'n gwisgo offer PPE tu hwnt i bopeth. Mae'n anodd amgyffred y peth i ddweud y gwir."
Dywed Claire fod pobl yn cael eu "cadw'n ddiogel ond fod hynny'n niweidiol i'w hiechyd" drwy beidio cael ymwelwyr.
"Dwi ddim am i unrhyw un arall fynd trwy'r un profiad."
Dywed Claire y dylai profion Covid cyflym fod ar gael ar gyfer perthnasau fel eu bod yn gallu gofalu am eu hanwyliaid yn ystod y cyfnod diwedd oes.
Mae'r Comisiynydd Helena Herklots yn annog cartrefi gofal i ganiatáu ymweliadau ar gyfer preswylwyr, yn enwedig ar gyfnod diwedd oes.
"Fe fydd trawma fel hyn yn aros gyda phobl am flynyddoedd a dylai ddim bod felly," meddai.
"Nid yw'n iawn fod yna sefyllfa lle na all pobl fod gyda'u hanwyliaid ar ddiwedd eu hoes."
'Sicrhau cydbwysedd'
Dywedodd llefarydd ar ran y cartref: "Byddwn am gyfleu ein cydymdeimladau dwys am golled Mr Lazarus, fydd yn cael ei deimlo'n fawr gan y rhai oedd yn ei adnabod. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw loes fod y cyfyngiadau ymweld lleol wedi achosi i deulu Mr Lazarus.
"Roedd y cartref o dan reolau clo lleol o ganol Medi. Ond er mwyn ateb gofynion gan y teulu i weld Mr Lazarus, fe wnaethom drefnu 'ymweliad ffenestr' ar 8 Hydref oherwydd yr amgylchiadau tosturiol.
"Roedd y tîm wedi cynllunio ar gyfer ymweliadau ffenestr wythnosol i'r teulu, ond yn anffodus bu farw Mr Lazarus yn fuan wedi i'r cynlluniau gael eu rhoi ar waith.
"Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau cydbwysedd sy'n caniatáu i drigolion dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd tra hefyd yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib i rwystro coronafeirws rhag ymledu i'r cartref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020