Ystyried profi torfol yn ysgolion a cholegau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plant ysgol mewn mygydauFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried rhoi profion coronafeirws i bob disgybl ysgol yng Nghymru.

Yn ôl y cyngor gwyddonol diweddaraf i'r weinyddiaeth fe ddylid profi athrawon a staff hefyd a myfyrwyr colegau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod angen rhagor o waith i weld sut mae danfon y profion cyflym diweddaraf i ysgolion pan fydden nhw ar gael a rhoi'r wybodaeth i'r gwasanaeth iechyd.

Ar raglen Post Cyntaf, dywedodd y bydd "nifer eitha' fawr" o brofion ar gael yn yr wythnosau nesaf, sy'n golygu cael canlyniad yn y fan a'r lle o fewn hanner awr.

Mae yna drefniadau eisoes i gynnal profion, gyda chanlyniadau cyflym, i fyfyrwyr prifysgolion, boed â symptomau Covid-19 ai peidio, fel eu bod yn gallu teithio adref ar gyfer gwyliau'r Nadolig.

Mae disgwyl i'r myfyrwyr deithio adref cyn 9 Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cyn ailagor ysgolion Cymru ym mis Medi, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Kirsty Williams fod y risg i blant, yn enwedig plant oedran cynradd, yn isel.

Awgryma'r dystiolaeth ddiweddaraf, fodd bynnag, bod lefelau heintio a throsglwyddo o fewn grwpiau oedran ysgol yn uwch nag oedd wedi'u tybio ynghynt.

Mae ffigyrau'n dangos fod achosion coronafeirws wedi'u cofnodi o fewn tua hanner ysgolion Cymru ers dechrau'r tymor, gan orfodi disgyblion ac athrawon i hunan-ynysu.

Nawr mae Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru'n argymell i weinidogion ystyried cynnal profion torfol mewn ysgolion, ar ôl adolygu'r dystiolaeth ynghylch Covid-19 ymhlith plant dan 18 oed.

Dywed y grŵp: "Dylid rhoi ystyriaeth i ddichonoldeb rhaglenni profi asymptomatig torfol mewn ysgolion a cholegau i wella rheolaeth o'r haint a chynnal hyder myfyrwyr, rhieni a staff.

"Dylai datblygiad unrhyw raglen brofi gymryd i ystyriaeth graddfeydd heintio cefndirol, ystod lawn y technolegau profi sydd ar gael, cyd-destun y gymuned..."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid i'r profion diweddaraf gael eu hasesu mewn labordy

Dywedodd Mark Drakeford bod trafodaeth ynghylch sicrhau profion cyflym ar draws y DU yn ystod cyfarfod cynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig â Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan, Michael Gove ddydd Mercher.

"Nawr y gwaith yw i feddwl am sut ni'n mynd i ddefnyddio nifer eitha' fawr o'r profion newydd sy'n mynd i ddod aton ni," meddai.

Mae angen ystyried "lot o bethau ymarferol" meddai, gan gynnwys sut i drosglwyddo'r profion rhwng y ddwy lywodraeth ac yna i'r ysgolion, ynghyd â "sut ni'n hyfforddi pobol i'w defnyddio nhw [a] sut ni'n mynd i roi'r wybodaeth ar ôl defnyddio nhw i fewn i'r system iechyd sy' 'da ni yng Nghymru".

'Cynnwrf'

Mae pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn Y Barri, Hywel Price, yn cefnogi'r syniad ond mae'n galw am "wir ystyried" sut mae trefnu'r profion.

Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf bod angen i "bobol sydd falle ddim yn gyfarwydd ag ysgolion bellach gofio bod hyn yn mynd i greu'r cynnwrf ryfedda' mewn ysgolion oherwydd oedran y plant".

Ychwanegodd: Nid pob rhiant yn amlwg fydd yn cefnogi hyn, ac wrth gwrs os y'ch chi'n profi ar lefel eang mewn ysgol, y'ch chi siŵr o ddod o hyd i achosion positif.

"Unwaith ma' hynny'n digwydd, ma' rhaid i chi felly gwynebu sefyllfa lle bydd ysgolion naill ai'n danfon blynyddoedd cyfan adref am bythefnos, neu hyd yn oed yn cau ysgolion am bythefnos."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod holl brifysgolion Cymru'n cynnal arbrawf i brofi myfyrwyr asymptomatig gan ddefnyddio profion canlyniadau cyflym, "ac rydym yn ystyried y defnydd ehangach o'r dyfeisiadau hyn ar draws sawl maes, gan gynnwys ysgolion.

"Yn y diweddariad diweddar i flaenoriaethau profi Cymru, fe roddwyd statws blaenoriaeth i staff addysg a gofal plant."