Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru 18-0 Georgia

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Webb gafodd ail gais y noson i Gymru

Doedd hi ddim yn fuddugoliaeth drawiadol, ond fe fydd Wayne Pivac a charfan Cymru'n fodlon gyda'r canlyniad yn Llanelli ar ôl colli eu chwe gêm diwethaf o'r bron.

Roedd 13 o newidiadau i'r garfan oedd wedi colli yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, ond digon di-fflach oedd y chwarae ar y cyfan.

Fe ddaeth y tri phwynt cyntaf i Gymru wedi 10 munud o chwarae - cic gosb a phwyntiau rhyngwladol cyntaf Callum Sheedy yn rhoi'r crysau cochion ar y blaen.

Daeth cais cyntaf y gêm i Louis Rees-Zammit ar ôl 26 munud, yn dilyn cyfnod addawol o feddiant mewn amodau anodd gyda'r gwynt a'r glaw yn hyrddio.

Roedd Johnny Williams yn disgleirio ar gyfnodau tra bod y capten Tipuric yn cynnal ei safon uchel arferol o berfformiadau rhyngwladol.

Dechreuodd Georgia ddangos elfen ymosodol tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ond methodd Tedo Abzhandadze gic gosb cyn y chwiban hanner amser, gyda Chymru 10-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Bu'n rhaid i McNicholl adael y cae yn gynnar yn yr ail hanner a daeth Jonah Holmes ymlaen yn ei le.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y chwaraewyr yn dathlu cais rhyngwladol cyntaf Louis Rees-Zammit dros ei wlad

Fe wnaeth goruchafiaeth sgrym Cymru barhau yn yr ail hanner gyda Alun Wyn Jones a Samson Lee yn mwynhau eu hunain ar dir cyfarwydd Parc y Scarlets.

Llwyddodd Sheedy gyda'i ail gic gosb gan gynyddu'r fantais ymhellach.

Yna, mewn gwrth-ymosodiad rhagorol fe gysylltodd Rees-Zammit gyda Tipuric, cyn i yntau ddioddef anaf i'w ben - Beka Saginadze gafodd gerdyn melyn gan y dyfarnwr Luke Pearce am y drosedd, er fod cerdyn coch dan ystyriaeth.

Roedd pryder i ddechrau am y modd y cwympodd Tipuric i'r llawr, ac fe fydd yn gryn her iddo fod yn holliach mewn amser ar gyfer wynebu Lloegr ddydd Sadwrn nesaf.

Fe afaelodd y mewnwr Rhys Webb yn yr awenau pan ddaeth ar y cae, ac fe ddaeth y cefnwr 19 oed, Ioan Lloyd, hefyd i'r cae a hawlio ei gap rhyngwladol cyntaf pan gafodd Liam Williams ei eilyddio.

Bu bron i Botham nodi ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf gyda chais ond cafodd ei gosbi ar ôl cael ei daclo.

Daeth ail gais Cymru yn y pen draw ar ôl i Johnny Williams a Rees-Zammit gefnogi Webb cyn iddo sgorio'r pwyntiau olaf.

Lloegr yw'r gwrthwynebwyr nesaf ymhen wythnos, ac ni fydd gan y Saeson ormod o bryderon o edrych ar y canlyniad yng ngorllewin Cymru bnawn Sadwrn.