Cyfnod clo wedi arwain at 'ostyngiad cyson' Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sut mae cyfradd achosion Covid-19 wedi newid?

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod y cyfnod clo byr diwethaf wedi arwain at "ostyngiad cyson" yng ngraddfa coronafeirws ar hyd y wlad.

Wrth siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford mai Blaenau Gwent yw'r sir sydd â'r lefel uchaf o achosion yng Nghymru - gyda 350 achos ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.

Y nifer ar Ynys Môn yw 20 achos ym mhob 100,000 meddai, ac mae nifer yr achosion ym Merthyr wedi gostwng o 770 achos i 250 achos ym mhob 100,000.

"Wrth i ni ddechrau profi'n helaeth dros y penwythnos ym Merthyr ry'n yn gobeithio y bydd y nifer yn gostwng eto," ychwanegodd.

Mae ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener yn dangos fod 31 yn rhagor o farwolaethau a 1,020 achos newydd o goronafeirws yng Nghymru.

Bellach mae 69,497 achos wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig ac mae 2,338 o farwolaethau wedi eu cofnodi.

Dywedodd Mr Drakeford fod y gwelliant tebygol yn y Rhif R eto i arwain at leihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, gan fod y sefyllfa yn yr ysbytai'n adlewyrchu trosglwyddiad y feirws yn y gymuned tua phythefnos ynghynt.

Ond pwysleisiodd fod graddfa nifer y cleifion coronafeirws sydd angen triniaeth ysbyty "wedi sefydlogi dros yr wythnos ddiwethaf".

Ar hyn o bryd mae cyfanswm y cleifion coronafeirws yn holl ysbytai Cymru'n cyfateb i 50 ward llawn, ac mae nifer angen bod yn yr ysbyty am hyd at dair wythnos.

"Yn anffodus, rydym yn parhau i weld lefelau uchel iawn o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws," meddai.

Dywed bod cabinet Llywodraeth Cymru wedi adolygu y mesurau cenedlaethol yr wythnos hon ac wedi penderfynu cadw at yr un rheolau am y pythefnos nesaf.

"Rhaid i bob un ohonom," meddai, "wneud ein rhan i adeiladu ar y cynnydd a wnaed wedi'r cyfnod clo byr.

"Mae hyn yn golygu cael cyn lleied o gysylltiad â phosib gyda phobl eraill a pheidio teithio oni bai bod rhaid."

Disgrifiad,

Dywedodd Mr Drakeford fod cyfnod clo arall "ddim yn anochel".

Dim penderfyniad am y Nadolig

Dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU er mwyn datblygu cynllun a fydd yn dod â phawb at ei gilydd yn ystod y Nadolig.

"Mae llawer o ddyfalu wedi bod yn y wasg am y cynlluniau ond yma yng Nghymru ry'n yn ymateb i'r argyfwng yn gyntaf ac yna yn cyhoeddi cynlluniau a dyna fyddwn ni'n ei wneud wrth drafod trefniadau'r Nadolig," meddai.

Dywedodd na fydd rheidrwydd tynhau'r rheolau ond eto dyw'r llywodraeth ddim yn "diystyru" hynny.

Wrth siarad â gohebwyr dywed fod y penderfyniad yn "ein dwylo ni".

"Os yw pobl yn ymateb ar ddiwedd y cyfnod clo byr fel bod yr haint drosodd, yna mae'n debygol y bydd yr haint yn llifo'n ôl i'n cymunedau ac yna bydd penderfyniadau anodd yn ein hwynebu.

"Ond fy neges i bobl heddiw yw nad oes rhaid i hynny ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y cyfnod clo byr diweddar i rym ar 23 Hydref ac roedd yn weithredol am 17 o ddyddiau

Ychwanegodd ei fod wedi bod yn gwrando ar nifer o sgyrsiau yng Nghymru ar a ydy'r Nadolig mor bwysig fel ei fod yn gwarantu cael cyfyngiadau llymach o bum niwrnod wedi'r llacio.

"Ry'n yn parhau i geisio gweld beth yw blaenoriaethau pobl," meddai, "ac rwy'n casglu fod pobl yng Nghymru am gael mwy o gyfle i gwrdd â theulu a ffrindiau.

"Ond mae'n rhaid i fi ddweud wrth bobl os mai dyna'r penderfyniad, bydd rhaid talu am hynny wedyn er mwyn delio â'r canlyniadau."

'Lleiafrif hunanol'

Dywedodd hefyd fod effaith hir dymor y cyfnod clo byr yn ddibynnol ar sut mae pobl yn ymddwyn wedi iddo ddod i ben.

"Mae'r rhan fwyaf," meddai, "yn glynu at y rheolau ond nid pawb. Mae plismyn wedi ymateb i dros 1,000 o ddigwyddiadau cysylltiedig â Covid lle mae lleiafrif hunanol yn rhoi bywydau eraill mewn peryg."

Wrth gyfeirio at gyfnod clo newydd Gogledd Iwerddon a chyfyngiadau newydd mewn rhannau o'r Alban dywed ei fod yn ceisio osgoi hyn i ddigwydd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford fod eleni wedi bod yn un anodd i bawb, wrth i'r pandemig orfodi pobl i ganslo a gohirio'u cynlluniau.

"Does neb yn mwynhau natur stopio ac ailddechrau'r flwyddyn hon ac rydym oll yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda'n bywydau wedi coronafeirws," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ond fe danlinellodd "na allai'r llywodraeth ar ben ei hun atal y feirws rhag lledu" a bod angen i bawb weld cyn lleied o bobl â phosib a "meddwl yn ofalus ynghylch ble ry'n ni'n mynd a beth ry'n i'n ei wneud".

Ychwanegodd: "Mae'r pŵer i atal pobl rhag dal y feirws yn nwylo pawb, a'r dewisiadau rydym oll yn eu gwneud bob dydd.

"Os wnawn ni hyd gyda'n gilydd, gallwn gadw ein hunain a'n teuluoedd yn saff. Gyda'n gilydd, gallwn gadw Cymru'n saff."

Dywedodd Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cymryd nifer o gamau i sicrhau nad oedd angen cyfnod clo cenedlaethol pellach.

Dywedodd Delyth Jewell AS: "P'un a ydym yn mynd i mewn i gloeon pellach neu gyfyngiadau pellach yn ystod y misoedd nesaf ai peidio - mae hynny i lawr i ba mor effeithiol fydd Llywodraeth Cymru wrth gael y problemau gyda phrofion ac olrhain yn sefydlog, wrth sicrhau bod profion torfol yn cael eu cyflwyno mewn pob ardal sydd â niferoedd uchel Covid-19 a sicrhau bod y negeseuon i'r cyhoedd yn glir.

"Os yw'r cyhoedd wedi drysu ynghylch sut y dylent fod yn ymateb i gyfyngiadau, yna efallai bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fwy gofalus ar y negeseuon y mae'n eu rhoi allan."