Llofruddiaeth Caergybi: Enwi dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
CaergybiFfynhonnell y llun, Geograph / Terry Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Stryd Thomas yng Nghaergybi

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn dilyn ymosodiad yng Nghaergybi ar ddydd Mawrth, 17 Tachwedd.

Roedd David John Jones yn 58 oed, ac yn cael ei adnabod yn lleol fel DJ.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod wedi eu dryllio gan ei farwolaeth:

"Ni all geiriau ddisgrifio ein sioc a'n arswyd ar yr hyn sydd wedi digwydd i David. Hoffem ddiolch i'r staff meddygol a wnaeth bopeth posibl i geisio achub David... ni all geiriau ddisgrifio ein colled a'n teimlad o anobaith."

Mae dau ddyn lleol a menyw leol yn parhau i fod yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth.

Ddydd Gwener fe ymddangosodd dyn 47 oed mewn llys yn Llandudno ac mae'r heddlu wedi cael gwarant i'w holi ymhellach hyd at fore dydd Sul.

Dywedodd Brian Kearney o Heddlu'r Gogledd: "Mae ein cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau David John Jones ar yr adeg drasig yma. Rydym yn ddiolchgar am yr help a'r gefnogaeth a gawsom gan ein cymuned yn dilyn ein cais cynharach i'r wasg am wybodaeth - mae nifer o dystion wedi cysylltu gyda ni.

"Fodd bynnag, byddwn yn apelio eto at unrhyw un a welodd yr ymosodiad hwn neu a welodd ddyn yn simsan ar ei draed rhwng Stryd Thomas, Ffordd Victoria a Ffordd Holborn rhwng 10:00 a 11:00 ar ddydd Mawrth 17 Tachwedd neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall mewn perthynas a'r ymchwiliad llofruddiaeth yma i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru."