Hunaniaith: Argymell ystyried dyfodol menter iaith Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
HunaniaithFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Gallai menter iaith adael rheolaeth Cyngor Gwynedd mewn ymgais i ddenu mwy o fuddsoddiad allanol.

Mae adroddiad fydd yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddydd Mawrth yn argymell sefydlu tasglu i ganfod y ffordd orau o sicrhau bod Hunaniaith - menter iaith y sir - yn cyrraedd ei lawn botensial dros y blynyddoedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae Hunaniaith yn un o'r gwasanaethau sydd o dan strwythur Cyngor Gwynedd, ond dyma'r unig fenter iaith yn y sir sy'n cael ei rheoli yn y modd yma.

Ond mae adroddiad gan Hunaniaith eu hunain wedi cynnig newidiadau sy'n cynnwys y posibilrwydd o fwy o hunan-reolaeth allai eu rhoi mewn sefyllfa well i ddenu arian o'r tu allan.

Cwtogi grant

Fel rhan o'u gwaith, mae swyddogion Hunaniaith yn gyfrifol am nifer o gynlluniau i hybu a chynyddu defnydd o'r iaith Gymraeg, gan gynnwys gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol a grwpiau eraill ar gynlluniau i deuluoedd, plant a phobl ifanc.

Ar un cyfnod roedd yn cyflogi pump o staff, ond ers 2015 gyda'r cwtogiad mewn grant o Lywodraeth Cymru - o £224,362 yn 2015-16 i £166,890 yn 2020-21 - mae'r staffio uniongyrchol o dan y grant yn cyfateb i 3.5 aelod o staff lawn amser.

Mae'r adolygiad wedi canfod bod mentrau iaith eraill a gafodd eu sefydlu fel cwmnïau cyfyngedig trwy warant - neu elusennau mewn rhai achosion - wedi gallu chwyddo'u hincwm diolch i grantiau gan gyrff cyhoeddus eraill, cronfeydd elusennol a ffynonellau eraill o incwm.

O ganlyniad, yr argymhelliad i'r cabinet ddydd Mawrth fydd gofyn am ddatblygu achos busnes i'r dewisiadau posib o gadw pethau fel ag y maen nhw, newid y statws i uned hyd braich neu ei sefydlu fel corff annibynnol yn gyfreithiol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y mater ddydd Mawrth

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, aelod o'r cabinet gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg: "Hoffwn ddiolch i Dafydd Iwan am ei arweiniad o Hunaniaith dros y blynyddoedd.

"Mae'n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud mwy i hybu'r defnydd o'r Gymraeg dros y blynyddoedd, ac mae ganddo brofiad hefyd o ddelio gyda mentrau iaith eraill ymhob rhan o Gymru.

"Rwy'n croesawu ei adroddiad a'r adolygiad annibynnol - mae'n gwneud synnwyr wedi 10 mlynedd ein bod yn ystyried lle y gallwn wella.

"Mae Gwynedd yn unigryw yng Nghymru fel cadarnle'r iaith Gymraeg. Mae'r gyffrous i ystyried y posibiliadau a chyfleoedd [i barhau yn y dyfodol] ac fe fydd gan Hunaniaith rôl allweddol yn y gwaith ar draws Gwynedd."

'Diolchgar iawn am y gefnogaeth'

Dywedodd Dafydd Iwan, cadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaith: "Mae'n rhaid pwysleisio, fel mae Hunaniaith wedi gwneud wastad, mai'r nod yw ychwanegu at y defnydd o'r Gymraeg yn y sir, cefnogi llwyddiant beth sy'n digwydd yn barod ac i fynd â'r Gymraeg i feysydd newydd ac i ardaloedd lle mae'r iaith ar drai.

"Mae Hunaniaith yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth o'r cychwyn, ac yn falch o'r gwaith sydd wedi ei wneud.

"Ry'n ni'n credu mai nawr yw'r amser i edrych yn fanwl at sut y bydd Hunaniaith yn gweithio orau yn y dyfodol."