Yr heddlu'n arestio pedwar arall wedi ffrwgwd Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd swyddogion yr heddlu wedi cau sawl stryd sy'n arwain at Heol y Frenhines wedi'r digwyddiad nos Sadwrn
Dywed Heddlu De Cymru fod pedwar yn rhagor o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Sadwrn, ble cafodd tri o bobl eu trywanu.
Mae'n dod â chyfanswm y rhai sydd wedi eu harestio i saith, a dywed yr heddlu eu bod yn disgwyl i'r nifer hynny gynyddu ymhellach.
Mae'r saith - sydd oll yn ddynion ifanc rhwng 16 ac 17 oed - wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi anrhefn treisgar.
Cafodd y saith eu rhyddhau a'r fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Fe aed â chwech o ddynion i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad, gydag anafiadau yn cynnwys cael eu trywanu ac anafiadau i'r pen.

Dywed yr heddlu fod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau
Dywed yr heddlu fod yr helynt - ddigwyddodd toc cyn 22:00 nos Sadwrn - yn ymwneud â grwpiau o ardaloedd Grangetown a Thredelerch.
Dywedodd y ditectif uwch arolygydd Esyr Jones: "Mae' hi'n ddyddiau cynnar ac rydym dal yn rhoi darlun at ei gilydd o beth ddigwyddodd ddydd Sadwrn.
"Mae dau grŵp o bobl ifanc wedi dod i ganol y ddinas, rhai gyda chyllyll, a'r canlyniad yw lefel annerbyniol o drais.
"Rydym yn dal i edrych ar dystiolaeth camera cylch cyfyng ac yn siarad gyda thystion."
O'r chwech a gafodd driniaeth ysbyty, mae tri yn parhau yno gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020