Achos Caergybi: Cadw dau yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
CaergybiFfynhonnell y llun, Geograph / Terry Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn ardal Stryd Thomas yng Nghaergybi

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon drwy gyswllt fideo ar gyhuddiad o lofruddio David Jones o Gaergybi.

Bu farw'r taid 58 oed yn ysbyty Royal Stoke o'i anafiadau yn dilyn ymosodiad yng Nghaergybi ar 17 Tachwedd.

Cafodd Gareth Wyn Jones, 47 oed o Lon Deg, Caergybi a Stuart Parkin, 38 oed, o Nimrod Walk, Caergybi eu cadw yn y ddalfa gan y Barnwr Rhys Rowlands.

Mae disgwyl i'r achos llawn gael ei glywed yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf.