Ffrae am arian amaeth wedi'r adolygiad gwariant
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Rishi Sunak y bydd Llywodraeth y DU yn gwario £280bn eleni "i gael ein gwlad trwy coronafeirws"
Mae ffrae yn corddi am ddyfodol cymorthdaliadau amaethyddol yn dilyn yr Adolygiad Gwariant gan y Canghellor Rishi Sunak ddydd Mercher.
Bydd amaeth yng Nghymru yn derbyn £242m y flwyddyn nesaf o weinidogion y DU, gan arwain at un undeb amaethyddol i honni bod hynny'n doriad o £95m o gymharu gyda chyllid blaenorol o Ewrop.
Mae gweinidogion llywodraeth y DU yn mynnu eu bod yn anrhydeddu addewid i gynnal incwm ffermydd.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, bod y Canghellor wedi "torri addewidion" ac ychwanegodd bod rhewi cyflogau'r mwyafrif yn y sector cyhoeddus yn "annheg".
Mae disgwyl i nifer y bobl ddi-waith yn y DU godi i 2.6 miliwn erbyn ail chwarter y flwyddyn nesaf, yn ôl y Canghellor, Rishi Sunak.
Yn ei adolygiad gwariant ddydd Mercher, dywedodd fod "argyfwng economaidd" y DU "newydd ddechrau".
Bydd y difrod a achoswyd gan y pandemig coronafeirws yn "barhaus", rhybuddiodd yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywed y Canghellor y bydd cyfanswm gwariant adrannol ar draws Whitehall yn £540bn yn 2021.
Bydd gwariant adrannol o ddydd i ddydd yn codi, 3.8% mewn termau real - "y gyfradd twf gyflymaf mewn 15 mlynedd".
Dywedodd y bydd cynnydd i gyllid Llywodraeth Cymru o £1.3bn, i Lywodraeth yr Alban o £2.4bn, a chynnydd o £900,000 i Ogledd Iwerddon.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 1.62 miliwn o bobl yn ddi-waith yn y DU.
Dywedodd Mr Sunak y byddai'r llywodraeth yn gwario £280bn eleni "i gael ein gwlad trwy coronafeirws".
Cyhoeddodd hefyd y byddai cyflog y sector cyhoeddus yn cael ei rewi, heblaw am nyrsys, meddygon a staff eraill y GIG a fydd yn cael codiad cyflog.

Mae'r Canghellor yn cael ei gyhuddo o fradychu ffermwyr drwy beidio parhau gyda'r lefel o gyllid arferol, ond gwadu hynny mae llywodraeth y DU
'Bradychu ffermwyr'
Roedd cyllid amaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn werth £337m i Gymru yn flynyddol ac yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi addo yn eu maniffesto i "warantu'r gyllideb flynyddol i ffermwyr ym mhob blwyddyn o'r senedd nesaf".
Ond dywedodd eu llywydd Glyn Roberts ddydd Mercher: "Mae'r penderfyniad i dorri'r gyllideb yna felly yn bradychu ffermwyr yn llwyr... ffermwyr sydd wedi parhau i gynhyrchu bwyd i fwydo'r genedl trwy gydol y pandemig coronafeirws."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: "Nid ydym wedi torri yr un addewid. Mae'r cyhoeddiad o £240m heddiw yn anrhydeddu ein hymrwymiad i barhau gyda'r fframwaith gyllido a dderbyniodd ffermwyr a rheolwyr tir yng Nghymru yn 2019."
Dim arian llifogydd wedi 'colli cyfle'
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans bod y Canghellor wedi "colli cyfle" trwy beidio â chyhoeddi arian i fynd i'r afael â difrod sydd wedi'i achosi gan lifogydd yng Nghymru.
Yn ôl Rebecca Evans, roedd hi wedi ysgrifennu at Mr Sunak yn galw arno i gyhoeddi y byddai cyllid ar gael.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Boris Johnson addo arian i helpu rhannau o Gymru sydd wedi'u taro gan lifogydd.

Fe wnaeth Rebecca Evans gytuno bod yr adroddiad gwariant yn "bradychu" ffermwyr Cymru
"Dydyn ni ddim wedi derbyn yr arian oedd wedi'i addo gan y Prif Weinidog," meddai Ms Evans yn y Senedd ddydd Mercher.
Dywedodd Ms Evans ei bod i fod i gael cyfarfod gyda'r Trysorlys ar y mater fis nesaf.
Roedd y gweinidog hefyd yn feirniadol o benderfyniad y Canghellor i beidio â rhoi codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus am y flwyddyn ariannol nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020