Honiad nad yw Nick Ramsay AS yn aelod o'r Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Nid yw'r aelod Ceidwadol dros Fynwy yn Senedd Cymru yn aelod o'r blaid y mae'n ei chynrychioli, yn ôl cadeirydd ei gangen leol o'r blaid.
Mae Nick Ramsay yn wynebu proses o gael ei ddad-ddethol ar ôl colli pleidlais dyngedfennol gan Gymdeithas Ceidwadwyr Mynwy ddydd Llun.
Yn ôl Nick Hackett-Pain, nid oedd Mr Ramsay yn gallu pleidleisio yn y cyfarfod hwnnw oherwydd ei statws.
Mae Mr Ramsay, sydd wedi dweud "na all fod yn wir" nad yw'n aelod, wedi cael cais am ymateb i'r sylwadau.
Yr wythnos diwethaf ceisiodd Mr Ramsay fynd â'i gymdeithas leol i'r llys, mewn ymgais i atal cyfarfod cyffredinol arbennig rhag cael ei gynnal i drafod deiseb yn galw am ddad-ddethol Mr Ramsay.
Yn ystod gwrandawiad llys lle tynnodd Mr Ramsay ei achos cyfreithiol yn ôl, honnodd bargyfreithiwr ar ran y gymdeithas, Greg Callus, nad yw Mr Ramsay "yn aelod o'r gymdeithas ar hyn o bryd", er iddo ychwanegu'n ddiweddarach fod ei statws yn "destun dadl".
Aeth y cyfarfod yn ei flaen, a phleidleisiodd yr aelodau i gefnogi'r ddeiseb ddydd Llun. Bydd angen cynnal pleidlais arall i gadarnhau'r dad-ddethol yn ddiweddarach.
Cyn sylwadau Mr Hackett-Pain, dywedodd Aelod Seneddol Mynwy mai'r "tro cyntaf" a glywodd am ei ddiffyg aelodaeth oedd "yr wythnos diwethaf".
"Ni all fod yn wir gan i mi dderbyn gwahoddiadau i gyfarfod cyffredinol arbennig dydd Llun ac roeddynt yn cyfeirio ataf fel aelod," meddai.
Aelodaeth
Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Mr Hackett-Pain: "Fe wnaeth aelodaeth Nick Ramsay ddod i ben yn ystod yr amser y cafodd ei wahardd o'r blaid yn ôl ym mis Mawrth yn gynharach eleni.
"Codwyd ei ataliad gan y blaid ym mis Gorffennaf. Ers mis Gorffennaf nid yw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ail-ymuno â'r blaid.
"Nid yw wedi talu ei ffioedd aelodaeth ac felly yn dechnegol, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw'n aelod o'r Blaid Geidwadol."
Pan ofynnwyd iddo a allai Mr Ramsay bleidleisio yn y cyfarfod ddydd Llun, ychwanegodd: "Os nad ydych chi'n aelod o'r blaid, ni allwch bleidleisio allwch chi?"
Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru y byddai'n amhriodol gwneud sylw.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Ramsay am ymateb pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020