Menyw wedi colli ei golwg ar ôl oedi i'w thriniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 72 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi colli ei golwg ar ôl i'w bwrdd iechyd lleol oedi ei thriniaeth am bedwar mis o ddechrau'r cyfnod clo cyntaf.
Mae Helen Jeremy yn credu na fyddai hi'n ddall nawr pe byddai wedi derbyn yr un pigiad misol i'w llygaid roedd hi'n ei dderbyn cyn y pandemig.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - sy'n gyfrifol am ofal Ms Jeremy - bod blaenoriaeth ar gyfer pigiadau wedi'i roi ar sail y risg i gleifion.
"Pe bai'r pigiadau wedi parhau rwy'n siŵr y byddwn i'n dal i yrru'r car i fynd i siopa, neu ganu'r piano," meddai Ms Jeremy.
"Mae popeth ro'n i'n caru ei wneud wedi mynd mas trwy'r ffenest, ac mae fy mywyd wedi newid yn llwyr."
'Fe wnaeth fy ngolwg ddiflannu'
Mae gan Ms Jeremy glawcoma, a cafodd ddiagnosis o gyflwr AMD - age-related macular degeneration - bedair blynedd yn ôl.
I ddechrau roedd modd rheoli'r cyflwr trwy roi diferion o feddyginiaeth yn ei llygaid, ond ers Tachwedd 2019 bu'n rhaid iddi gael pigiad i'w llygaid unwaith y mis.
Dywedodd bod y driniaeth wedi helpu ei golwg, a'i bod wedi gallu parhau i yrru a darllen.
Ond dyw Ms Jeremy ddim wedi derbyn pigiad ers mis Mawrth bellach oherwydd y pandemig, ac fe wnaeth ei golwg ddirywio wrth i'w thriniaethau gael eu canslo am bedwar mis.
Gyda help gwasanaethau cymdeithasol fe lwyddodd i gael apwyntiad arall ym mis Gorffennaf, ac fe gafodd bigiad arall bryd hynny.
"Tra'n disgwyl am fy apwyntiad nesaf fe wnaeth fy ngolwg ddiflannu i bob pwrpas," meddai Ms Jeremy.
"Erbyn fy apwyntiad nesaf fe ddywedon nhw wrtha i nad oedd pwynt i'r pigiadau barhau oherwydd y niwed oedd wedi'i wneud i gefn fy llygaid."
'Rhai cyflyrau yn gwaethygu dros amser'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod apwyntiad Ms Jeremy ym mis Mai wedi'i ganslo oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i'r pandemig.
Yn ôl llefarydd "cafodd pob claf eu hasesu gan y tîm clinigol er mwyn sicrhau bod y rheiny oedd â'r risg mwyaf yn cael eu trin fel blaenoriaeth".
"Mae'n ddrwg gennym fod Ms Jeremy yn anffodus wedi profi dirywiad i'w golwg ychydig wythnosau wedi ei thriniaeth ddiwethaf ym mis Gorffennaf," meddai.
"Yn anffodus mae rhai cyflyrau ar y llygaid yn gwaethygu dros amser hyd yn oed os ydyn nhw'n derbyn triniaeth."
'Mwy ddim yn derbyn triniaeth amserol'
Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod 33,000 o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg yn disgwyl yn hirach na tharged Llywodraeth Cymru i gael eu trin.
Y targed yw y dylai 95% o'r achosion mwyaf difrifol gael eu trin yn amserol, ond 66% oedd y cyfartaledd ledled Cymru ym mis Mawrth, ac roedd hynny wedi gostwng ymhellach i 53% erbyn mis Hydref.
Dywedodd cyfarwyddwr elusen RNIB Cymru, Ansley Workman bod y ffigyrau yn "hynod bryderus".
"Hyd yn oed cyn Covid roedd pobl eisoes yn disgwyl yn llawer rhy hir am y driniaeth roedd angen arnyn nhw er mwyn achub eu golwg," meddai.
"Yn amlwg, gyda'r pwysau sydd ar y GIG, yr hyn ry'n ni'n ei weld ydy bod hyd yn oed yn fwy o gleifion sydd ddim yn derbyn triniaeth amserol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod triniaethau llygaid wedi bod ar gael ar gyfer gofal brys trwy gydol y pandemig, ond bod triniaethau wedi cael eu heffeithio ganddo.
"Ry'n ni'n gweithio gyda byrddau iechyd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd llygaid yn parhau i weithredu yng Nghymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020