Byddai rheilffyrdd wedi 'cael mwy o arian' yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth rheilffordd yng Nghymru a gafodd ei anfarwoli yn llyfrau 'Thomas the Tank Engine' yn credu y byddai'r busnes wedi cael mwy o gymorth pe byddai wedi bod yn Lloegr.
Mae Rheilffordd Tal-y-llyn, lle bu'r awdur y Parchedig W Awdry yn gwirfoddoli, yn un o leiniau cul enwocaf Cymru, yn dweud ei bod wedi cael blwyddyn "hunllefus".
Mae nifer y teithwyr i'r rheilffordd yn ardal Tywyn ym Meirionydd wedi gostwng yn aruthrol, a refeniw wedi disgyn, ac mae leiniau Cymru yn dweud bod leiniau tebyg yn Lloegr wedi cael mwy o gymorth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £715,000 wedi mynd i helpu rheilffyrdd treftadaeth hanesyddol.
Mae rheilffyrdd leiniau cul Cymru yn denu oddeutu miliwn o ymwelwyr mewn blwyddyn arferol, gydag amcangyfrifon yn dweud eu bod yn cyfrannu £55m i economi Cymru.
Fel arfer fe fyddai'r 11 rheilffordd yn barod am un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn cyn y Nadolig.
'Diolchgar iawn'
Ond mae argyfwng Covid-19 wedi newid y sefyllfa yn llwyr, a dim ond dau o'r 11 sy'n rhan o gymdeithas Rheilffyrdd Bach Cymru sy'n trefnu digwyddiadau arbennig dros gyfnod y Nadolig.
Mae rhoddion ar-lein, grantiau loteri ac arian o'r llywodraeth wedi bod o gymorth, ond mae'r rheilffyrdd Cymreig yn rhwystredig gan ddweud bod rheilffyrdd tebyg yn Lloegr wedi cael mwy o gymorth ariannol.
Yn Lloegr, mae'r rheilffyrdd yn gymwys i wneud cais am arian o Gronfa Adfer Diwylliannol llywodraeth y DU sy'n werth £1.57bn, ond yng Nghymru mae'r cwmnïau'n dweud mai dim ond £150,000 oedd ar gael iddyn nhw.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Rheilffordd Tal-y-llyn, Stuart Williams, ei fod yn "ddiolchgar iawn" am y £150,000, ond fod y cwmni wedi colli £670,000 o'u refeniw blynyddol.
"Mae eleni wedi bod yn her enfawr," meddai. "Fe wnaethon ni godi £130,000 ar ymweliadau rhithwir pan oedden ni ar gau, a heb hynny fe fydden ni mewn trafferthion mawr."
Mae llai na chwarter y 50,000 arferol o ymwelwyr wedi gwneud y daith o Dywyn i gysgod Cader Idris yn ystod 2020.
'Effaith anferth'
Ychydig filltiroedd i ffwrdd, Rheilffordd Ffestiniog oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gario teithwyr ar lein gul pan agorodd yn 1865.
Ond eleni mae bron traean o'r gweithlu o bron 100 wedi cael eu diswyddo wrth i'r rheilffordd fynd i drafferthion.
Mae trosiant blynyddol y cwmni fel arfer rhwng £6-7m, ac mae'n denu 200,000 o ymwelwyr.
Dywedodd rheolwr masnachol y rheilffordd, Clare Britton: "Mae wedi cael effaith enfawr ar deuluoedd mewn rhan o'r byd lle gall swyddi fod yn eitha prin."
Cyn y pandemig, roedden nhw'n cyflogi 300 o staff lawn amser a mwy na 500 o staff tymhorol, ond mae pob un o reilffyrdd treftadaeth Cymru wedi gorfod rhoi staff ar ffyrlo, ac mae rhai wedi gorfod diswyddo staff.
"Mae rheilffyrdd yn denu miloedd, yn enwedig i ogledd orllewin Cymru," ychwanegodd Ms Britton.
"Pan ydyn ni'n trefnu digwyddiadau, mae pobl yn dod yma ac yn gwario yn yr economi leol.
"Mae'r ffaith nad ydyn nhw wedi gwneud eleni yn cael effaith ar bawb yn lleol - tai bwyta a B&Bs ac ati a phobl sy'n llai hyderus i wario."
Rheilffordd Cwm Rheidol - rhwng Aberystwyth a Phont-ar-Fynach yng Ngheredigion - yw'r unig lein treftadaeth sydd heb agor o gwbl yn ystod y pandemig.
Mae'r rheilffordd wedi colli tua £1m eleni ac mae 40 o staff yn dal ar ffyrlo, a dywed y pennaeth y byddai croeso mawr i fwy o gymorth.
Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Llyr ab Iolo: "Mae gan y system yn Lloegr mwy o gymorth ariannol ar gael, mae'n ymddangos yn gyflymach ac mae llawer mwy o weinyddu yn y broses o wneud cais yng Nghymru."
Mae rheilffyrdd treftadaeth ymhlith y sefydliadau sy'n gymwys am grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi iddyn nhw dderbyn arian o'r Gronfa Adfer Diwylliannol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O'r £63m o'r Gronfa Adfer Diwylliannol, mae mwy na £30m eisoes wedi cael ei ddosrannu i ddarparu cymorth hanfodol i sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru, gan gynnwys cyfanswm o £715,000 hyd yma ar gyfer rheilffyrdd hanesyddol.
"Mae'r broses geisiadau yn croesawu ceisiadau am gymorth o hyd at £500,000."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020
- Cyhoeddwyd30 Awst 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020