Llanc wedi'i gyhuddo'n dilyn trywaniad yn Nhreganna
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliadau mewn i'r digwyddiad yn parhau
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o gario arf ymosodol ac anafu person yn fwriadol yn dilyn trywaniad yng Nghaerdydd dydd Mercher.
Bu'r bachgen o Dreganna, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Tachwedd a bydd yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf.
Galwyd y gwasanaethau brys i ardal Broad Street ar ôl adroddiadau o drywaniad o gwmpas 10:00 ar 25 Tachwedd.
Cafodd bachgen 17 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau oedd ddim yn peryglu ei fywyd.
Mae'r tri arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau.
Rhyddhawyd dau fachgen 17 ac 15 oed o ardal Grangetown a Glan'rafon ar fechnïaeth.
Cafodd dyn 43 oed o Benarth hefyd ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020