Penodi pennaeth BBC Cymru'n Gyfarwyddwr y Cenhedloedd

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Talfan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhodri Talfan Davies yn dechrau'r swydd newydd yn Ionawr 2021

Cyhoeddodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC bod pennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr y Cenhedloedd i'r BBC.

Bydd Cyfarwyddwr BBC Cymru yn parhau'n gyfrifol am wasanaethau BBC Cymru, ond hefyd y gwasanaethau yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar yn Ionawr 2021.

Bu'n gyfarwyddwr BBC Cymru ers naw mlynedd.

Fe fydd cyfarwyddwyr y BBD yn Lloegr (Helen Thomas), Yr Alban (Steve Carson) a Gogledd Iwerddon (Peter Johnston) yn atebol i Mr Talfan Davies yn ei rôl newydd.

Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr BBC Cymru, bu'n arwain y timau fu'n gyfrifol am lwyddiannau rhwydwaith yn Gymraeg a Saesneg fel Y Gwyll/Hinterland ac Un Bore Mercher/Keeping Faith, ac yn ddiweddar bu wrth y llyw wrth i'r BBC yng Nghaerdydd symud i gartref newydd yn Sgwâr Canolog.

Dywedodd: "Er bo fi'n amlwg yn falch iawn o gael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr y Cenhedloedd, ro'n i am ddweud bod y naw mlynedd diwethaf wedi bod yn antur arbennig iawn - ac mae gweithio gyda chymaint o gydweithwyr talentog ar draws BBC Cymru wedi bod yn fraint llwyr."