'Gall rhai farw' oherwydd diffyg cefnogaeth trais domestig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cysgod menywFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai prinder yn y gefnogaeth i blant a theuluoedd sy'n byw gyda thrais yn y cartref arwain at farwolaethau, medd dwy elusen.

Dywed gwasanaethau trais domestig eu bod yn cael trafferth ymateb i gynnydd mewn galwadau ers i ysgolion ailagor ym mis Medi, a bod llawer o achosion newydd wedi dod i'r fei.

Roedd gwasanaethau cefnogi plant, medd Cymorth i Ferched Cymru a NSPCC Cymru, eisoes yn "brin" ac "heb gyllid digonol", gan greu cefnogaeth "loteri cod post".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £1.3m wedi cael ei wario ar helpu canfod llety i ddioddefwyr.

'Cam anferthol a dychrynllyd'

Dywed Beth - nid ei henw cywir - bod ei chymar yn ei chyhuddo o gael rhyw gyda phobl eraill tra roedd yn gweithio.

"Dywedodd nad o'n i'n fam ddigon da i ofalu am ei ferch," meddai.

Datblygodd y berthynas i fod yn un dreisgar.

"Dechreuodd fy ngwthio, fy mhwnio, fy nghicio mas o'r gwely. Un diwrnod fe dywalltodd botel o Coke dros fy mhen ar ôl fy nghyhuddo o beidio â'i alw pan roedd ei fwyd yn barod."

Roedd y sefyllfa, meddai, yn "dechrau cael effaith" ar ei merch 11 oed, sydd ag "anghenion cymhleth".

Llwyddodd i ffoi o'i chartref yn ne Cymru ychydig cyn y clo cenedlaethol ym mis Mawrth, gan alw am help wedi i'w mam fygwth ffonio'r gwasanaethau cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Beth i ffoi o'r berthynas oherwydd yr effaith ar ei merch 11 oed

Treuliodd wyth mis mewn lloches i ferched, ac mae'n ofni na fyddai wedi gallu ffoi petai wedi aros nes wedi dechrau'r pandemig.

Bu'n rhaid i Beth ddisgwyl nes bod ei chymar yn y gwaith a'i merch yn yr ysgol cyn dianc.

"Roedd yn gam anferthol - yn ddychrynllyd. Ro'n i'n meddwl galle'r bychan gael ei chymryd oddi arna'i... taw fi oedd ar fai am adael i hyn fynd ymlaen mor hir," meddai.

"Yr hyn sy'n ofid yw peidio gwybod ble ry'ch chi am fynd wedi'r alwad ffôn - pwy sydd ben arall y lein a phwy sy'n mynd i'ch helpu."

Ond roedd yna le iddi mewn lloches cyn casglu ei merch o'r ysgol.

"Eglurais iddi nad oedden ni'n mynd adref, ac rwy'n ei chofio'n dweud wrtha'i, 'fyddan ni'n iawn nawr ac yn ddiogel, oherwydd gall Dad ddim gweiddi na neud dim byd nawr, gall e?'."

Ofni'r gwaethaf

Dywed rhai gwasanaethau nad ydyn nhw'n ymdopi wedi "cynnydd aruthrol" yn nifer yr achosion maen nhw'n ei dderbyn, ac maen nhw'n ofni'r gwaethaf yn achos yr unigolion rheiny na allan nhw'u cefnogi.

"Am y tro cyntaf yn fy ngyrfa rydym wedi gorfod cyflwyno rhestr aros," meddai Kate Annison o Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn Y Drenewydd.

Mae nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio at y ganolfan, meddai, wedi mwy na dyblu rhwng Awst a Hydref eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kate Annison nad yw erioed wedi gorfod rhoi pobl ar restr aros am gefnogaeth tan yn ddiweddar

Yn aml, meddai, mae gwasanaethau cefnogaeth i blant yn gallu datgelu mwy am ddifrifoldeb unrhyw gamdriniaeth neu drais sy'n digwydd yn y cartref.

"Mae'r plant yn datgelu llawer o bethau oedd yn digwydd yn ystod y cyfnod clo blaenorol neu sy'n dal i ddigwydd," meddai Ms Annison.

"Rydym wedi gorfod rhoi chwe pherson ar restr aros am gefnogaeth hyd yma - dyna i chi bedwar teulu.

"Gallai gorfodi pobl i aros amser byr, hyd yn oed, olygu eu bod yn cael eu hanafu'n wirioneddol ddrwg. Gallai'r penderfyniadau hyn ry'n ni'n eu gwneud arwain at farwolaeth, yn y pen draw."

'Diffyg capasiti'

Dywed Ms Annison bod hi a'i thîm eisoes yn gwybod am achos ble bu farw aelod o deulu wedi methiant i gael digon o le mewn lloches.

"Gwyddwn eu bod wedi trio sawl gwasanaeth gwahanol mewn llefydd gwahanol a methu cael lle," meddai.

"Yn anffodus, fe wnaethon nhw dynnu'n ôl ac roedd yna farwolaeth yn y teulu hwnnw.

"Roedd y dioddefwr yna'n gofyn am gefnogaeth pan roedd yn bosib gwneud, o bosib pan roedd y tramgwyddwr ddim o gwmpas.

"Petasem â'r capasiti fel gwlad i'w rhoi mewn lloches, fe fyddan nhw wedi bod yn ddiogel nawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti, bu farw rhywun ac mae yna bobl ifanc mewn gofal."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pwysau ar wasanaethau'n "arwain at bobl yn colli'u bywydau," medd Angelina Rodriques

Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru a NSPCC Cymru, mae llawer o wasanaethau â chyllid annigonol, gan ddibynnu ar roddion elusennol a grantiau.

"Mae'r pandemig wedi gwaethygu rhywbeth oedd mewn trafferthion eisoes," meddai Angelina Rodriques o elusen Atal Y Fro, sy'n rhedeg lloches a gwasanaeth cefnogi ym Mro Morgannwg.

"Os nad oes gan wasanaeth y cyllid neu'r adnoddau, oll ry'ch chi'n ei wneud yw dal menywod a phlant ar restrau aros.

"Doedden ni ddim yn gallu ateb y galw cyn Covid, felly dydyn ni methu gwneud nawr. Mae yna gyfeiriadau bob dydd, a ni allwch chi ddala lan.

"Ry'n ni'n gwneud ein gorau, ond ry'n ni'n colli llawer o bobl o gwmpas Bro Morgannwg.

"O ganlyniad bydd pobl yn colli'u bywydau, oherwydd na allan nhw gael y gefnogaeth bryd hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Adnodd sy'n helpu trafod amgylchiadau anodd gyda phlant all fod angen cefnogaeth

'Ganwaith anoddach nawr'

Mae Beth bellach yn teimlo'n ddiogel, ond mae'n ofni effaith hirdymor y pandemig ar fenywod a theuluoedd eraill sy'n byw gyda thrais yn y cartref.

"Rwy'n meddwl bydd hi'n ganwaith anoddach i gyrraedd gwasanaethau nawr," meddai.

"Petawn i yn yr un sefyllfa ym Mawrth neu Ebrill... rwy'n meddwl y buaswn i'n dal yna. Rhaid i chi adael cyn i'r tramgwyddwr wybod unrhyw beth ynghylch beth sy'n mynd ymlaen...

"Mae pobl nawr dan glo - does gyda nhw mo'r rhwydwaith cefnogaeth oherwydd y cyfyngu ar bwy allan nhw weld yn sgil Covid.

"Mae plant hefyd angen y gwasanaethau a'r gefnogaeth yma. Petawn ni ddim, yna maen nhw'n meddwl bod yr ymddygiad yna'n normal.

"Gall hynny eu harwain nes ymlaen i droi at gyffuriau, neu drais [a] niweidio rhywun arall.

"Gallan nhw ddiweddu mewn perthynas dreisgar eu hunain, a meddwl bod o'n cyfateb i sut gawson nhw'u magu."

Os ydych chi'n poeni am bwnc y stori yma, mae mwy o wybodaeth ar wefan BBC Action Line.