CBDC yn penodi cyn-bennaeth dadleuol Swyddfa'r Post

  • Cyhoeddwyd
Angela van den Bogerd
Disgrifiad o’r llun,

Angela van den Bogerd yn ateb cwestiynau pwyllgor Seneddol ynghylch yr is-bostfeistri a'r system Horizon

Mae BBC Cymru ar ddeall bod un o gyn-gyfarwyddwyr Swyddfa'r Post, gafodd ei beirniadu gan farnwr am geisio camarwain llys barn mewn achos dadleuol, wedi ei phenodi yn 'bennaeth pobl' gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd Angela van den Bogerd yn gyfarwyddwraig gyda Swyddfa'r Post cyn iddi adael yn gynharach eleni.

Hi oedd y swyddog â'r statws uchaf i roi tystiolaeth mewn cyfres o achosion llys dadleuol rhwng Swyddfa'r Post a chyn is-bostfeistri gafodd eu hamau ar gam o ddwyn arian gan eu cyflogwyr.

Cafodd sawl cyn is-bostfeistr eu carcharu ar ôl cael eu cyhuddo o dwyll a cham-gyfrifo.

Yn ôl yr is-bostfeistri, nam yn system gyfrifiadurol Horizon, oedd yn gyfrifol am anghysonderau yng nghyfrifon rhai canghennau.

Disgrifiad o’r llun,

Is-bostfeistri'n dathlu dyfarniad y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i gyfeirio 39 o ddedfrydau is-bostfeistri at apêl

Yn y llys, fe feirniadodd y Barnwr Fraser dystion Swyddfa'r Post. Cafodd Mrs van den Bogerd ei henwi yn benodol gan y Barnwr, a'i beirniadu am y dystiolaeth a roddodd i'r llys.

Fe ddywedodd ei bod hi "heb roi tystiolaeth blaen imi, ac fe wnaeth hi geisio cymylu pethau, a fy nghamarwain".

Mae'n ymddangos bod Mrs van den Bogerd bellach wedi dechrau gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bu'r Gymdeithas yn hysbysebu am 'bennaeth pobl' drwy gwmni Goodson Thomas, sy'n arbenigo ar recriwtio swyddogion gweithredol i gleientiaid, ym mis Hydref.

Mae ffynonellau sydd â chysylltiadau agos â'r gymdeithas wedi mynegi pryderon am rôl newydd Mrs van den Bogerd oherwydd ei chysylltiad gyda Swyddfa'r Post a'r achosion llys dadleuol.

'Dangoswch barch i bobl'

Cafodd Noel Thomas ei garcharu ar ôl cael ei gyhuddo o gyfrifo ffug yn 2006. Collodd ei gartref a mynd yn fethdalwr yn sgil y cyhuddiad.

Mae Mr Thomas yn apelio ac mae dyfarniad gan yr Uchel Lys yn gynharach eleni yn ei gwneud hi'n annhebygol iawn y bydd Swyddfa'r Post yn gwrthwynebu'r apêl yna.

Disgrifiad o’r llun,

Ag yntau wedi ei garcharu ar gam, mae Noel Thomas yn cwestiynu penodiad Angela van den Bogerd

Dywedodd wrth raglen Newyddion: "Mae 'di eistedd wrth ochr ei chadeirydd mewn parliamentary committee yn gwadu'r petha' ma' i gyd.

"Dy'n ni ddim wedi cael gw'bod yn iawn beth sydd 'di digwydd tan oedd y cwrt cases dwetha' ma' a beth oedd y barnwr wedi dweud.

"Mae ei ddyfarniad dros 800 tudalen. Os fysech chi'n darllen hwnna, mae o'n erchyll."

Ac roedd ganddo'r neges yma i'r Gymdeithas Bêl-droed: "Sbïwch i fewn i bethau. Dangoswch barch i bobl.

"Ydyn nhw'n gwneud ymchwiliad iawn? Achos os fyswn i isho swydd, yn bendant fysa'r bobl sydd isho fy nghymryd i yn mynd i edrych i mewn i 'nghefndir i."

Fe ofynnwyd am ymateb y Gymdeithas Bêl-droed i'r pryderon am apwyntio Mrs van den Bogerd. "Does y Gymdeithas ddim sylw i'w wneud ar hyn," oedd eu hymateb.

Er gwaethaf sawl cais i gysylltu â Mrs van den Bogerd, dyw hi heb ymateb i'r negeseuon eto.