Elfyn Evans yn ail ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd Toyota
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd cerbyd Toyota Elfyn Evans gryn ddifrod wedi iddo lithro ar y rhew ddoe yn Yr Eidal

Methiant fu ymdrechion y gyrrwr rali Elfyn Evans i ennill Pencampwriaeth Ralïo'r Byd wedi i'w gerbyd lithro mewn tywydd echrydus yn Rali Monza ddydd Sadwrn.

Y Ffrancwr Sebastien Ogier a enillodd o wyth pwynt gan amddifadu y Cymro Cymraeg o Ddinas Mawddwy ei deitl o fod yn Bencampwr Ralïo'r Byd.

Petai Mr Evans wedi ennill ef fyddai'r Cymro cyntaf i gyflawni'r gamp a'r trydydd Prydeiniwr. Yn 1995 Colin McRae oedd y pencampwr ac yn 2001 fe gipiodd Richard Burns y bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, Massimo Bettiol

Chafodd Evans sy'n 31 oed ddim mo'i anafu yn y gwrthdrawiad ddydd Sadwrn ond fe gafodd ei gerbyd Toyota gryn ddifrod.

"Rwy'n teimlo trueni dros Elfyn," meddai Sebastien Ogier, "fe gawson ni lot o hwyl yn cystadlu yn erbyn ein gilydd y tymor hwn ac rwy'n siŵr bydd y tymor nesaf yr un fath."

'Teimlo trueni ar ran y tîm'

Wrth siarad wedi'r digwyddiad ddydd Sadwrn dywedodd Elfyn Evans: "Ar ddechrau'r cymal roedd yna lawer o ddŵr llonydd ond roeddwn yn teimlo fod pethau'n mynd yn weddol esmwyth ond yna roedd yna eira a'r teimlad cyffredinol oedd gen i fy mod i'n mynd braidd yn araf.

"Fe waethygodd yr eira ond roedd grip gen i am y rhan fwyaf o'r amser.

"Wrth ddod rownd y gornel roedd yr arwyneb wedi newid ac wrth i fi frecio roedd o fel gwydr a doedd dim siawns i arafu - roedd o'n sioc i fi ond dyna fel mae pethau'n mynd. Roedd rhaid i fi fentro - doedd dim modd i fi ennill heb hynny.

"Roedd fy nodiadau i yn dweud wrthyf bod arwyneb y ffordd yn newid ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddo newid gymaint," ychwanegodd Elfyn Evans.

"Rwy'n teimlo trueni ar ran y tîm," meddai Mr Evans a ddaeth yn ail gyda 114 pwynt.

Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf Evans, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain 1996

Cyn y ras dywedodd tad Elfyn, Gwyndaf Evans, ei fod yn nerfus iawn pan mae ei fab yn rasio ond y byddai'n falch o'i lwyddiant eleni beth bynnag fyddai'n digwydd.

Pynciau cysylltiedig