Disgyblion yn 'dysgu adref ar offer chwarae gemau'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai plant yn dysgu gartref ar gonsolau gemau a ffonau symudol, er gwaethaf addewid gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw blentyn yn cael ei "adael ar ôl" yn ystod y pandemig.
Fe ddarparodd y llywodraeth £3m ar gyfer gliniaduron a dyfeisiau wi-fi 4G ym mis Ebrill, ond mae rhai disgyblion yn dal i fod heb yr offer angenrheidiol.
Mae Plaid Cymru'n galw am sefydlu cofrestr genedlaethol o blant sy'n cael trafferth mynd ar y we o adref.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflenwi miloedd o declynnau.
Mae rhai ysgolion yng Nghasnewydd yn dibynnu ar apêl i ddarparu cannoedd o liniaduron a mathau eraill o offer.
'Lefel yr angen yn fwy'
Wrth gyhoeddi'r cymorth ym mis Ebrill, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi'n flaenoriaeth i sicrhau bod "dim un plentyn na theulu'n cael eu gadael ar ôl yn ystod yr argyfwng yma a bod bob plentyn yn cael y cyfle i barhau i ddysgu".
Ym Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru bod disgyblion "i fod, erbyn hyn, wedi derbyn y ddyfais a'r cysylltedd angenrheidiol" - ond nid yw hynny wedi digwydd ymhob achos.
Dywed Maggie Bain, un o lywodraethwyr Ysgol Gynradd Llyswyry, yng Nghasnewydd, bod rhai dyfeisiadau wedi'u darparu, ond ei bod yn teimlo "nad yw wedi ymateb i lefel yr angen".
Dywedodd dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Llyswyry, Lisa Peterson: "Mae gan lawer o blant Xbox neu PlayStation ond dydy'r rheiny ddim yn addas i ddysgu gartref.
"Mae nifer sylweddol â ffonau, ond unwaith eto dydy hwnnw ddim yn ddyfais addas."
Yn ôl Ms Peterson, fe dderbyniodd yr ysgol chwe gliniadur i rannu rhwng 160 o ddisgyblion fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru.
"Fe nododd y prosiect lawer iawn yn fwy o blant oedd angen dyfeisiadau nag oedd ar gael."
Ychwanegodd fod cyfrifiaduron erbyn hyn cyn bwysiced â "phin ysgrifennu, pensil a darn o bapur".
Yn ôl uwch swyddogion yn Ysgol Gynradd Maendy, yng Nghasnewydd, "lleiafrif bach iawn" o'r plant - "llai na llond llaw ymhob dosbarth" - sydd wedi cael mynediad at "gyfleoedd da i ddysgu gartref gydol y cyfnod clo".
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Jo Cueto: "Rydym yn amcangyfrif fod angen tua 160 o ddyfeisiadau i sicrhau fod pob plentyn, pob teulu, yn gallu derbyn addysg gartref.
"Nid dyfais i bob plentyn fyddai hynny, ond dyfais i bob teulu, felly fe allai tri neu bedwar plentyn fod yn defnyddio'r ddyfais yna mewn rhai achosion."
Ychwanegodd fod yr ysgol wedi buddsoddi mewn offer ond maen nhw'n "dal, debyg, angen tua 120 o ddyfeisiadau".
"Yn anffodus, dydw i ddim yn meddwl bod digon o arian i lenwi'r bylchau," meddai.
Mae ysgolion Maendy a Llyswyry'n dibynnu ar elusennau lleol i ddarparu'r cannoedd o liniaduron maen nhw eu hangen.
Cafodd dros 2,500 o ddisgyblion eu nodi fel disgyblion heb adnoddau digidol ar draws Casnewydd. Mae'r cyngor sir wedi benthyg 1,300 o ddyfeisiadau wi-fi a 800 o ddyfeisiadau eraill, gan gynnwys gliniaduron.
Ymdrechion 'cymeradwy' - ond angen 'darlun clir'
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi talu am 10,848 o ddyfeisiadau wi-fi a 9,717 o drwyddedau meddalwedd ar draws Cymru.
Yn Ebrill dywedodd y byddai'r rhaglen addysg ddigidol, Hwb yn talu am offer newydd.
Roedd ymdrechion Cymru i fynd i'r afael â bylchau dysgu ar-lein yn "gymeradwy", yn ôl adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg.
Ychwanegodd: "Roedd Llywodraeth Cymru wedi gallu manteisio ar seilwaith wedi hen sefydlu, oedd yn caniatáu gweithredu'n gyflym".
Ond mae'r gwrthbleidiau'n cwestiynu a oes gan weinidogion "ddarlun clir" o faint tlodi digidol yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth bod dim cofrestr genedlaethol o ddisgyblion heb adnoddau digidol, ac mai "ysgolion ac awdurdodau lleol sydd yn y lle gorau i gefnogi eu dysgwyr".
Cyfrifoldeb cynghorau sir yw darparu dyfeisiadau a rheoli cysylltiadau â'r we.
Mae Plaid Cymru'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal "archwiliad" i "fonitro a mesur tlodi digidol" yn well.
"Cam cyntaf" fyddai hynny, medd llefarydd addysg y blaid, Siân Gwenllian, "ond mae'n hanfodol achos gallwch chi weld wedyn maint y broblem a gwybod ble i dargedu'r gefnogaeth".
Does dim "darlun clir o hyd a lled y gwahaniaethau digidol a thlodi digidol yng Nghymru", meddai. "Dydy darlun y llywodraeth ddim yn gyson â'r hyn 'dan ni'n ei glywed ar lawr gwlad."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi canllawiau i helpu cynghorau ac ysgolion sicrhau bod plant yn gallu parhau i ddysgu pan nad ydyn nhw'n cael mynd i'r ysgol oherwydd Covid-19.
"Ers mis Medi, mae athrawon ar draws Cymru wedi creu dros 30,000 o ddosbarthiadau digidol trwy Hwb, sy'n fwy na'r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol," medd llefarydd.
"Trwy'r dosbarthiadau digidol yma, mae athrawon yn darparu ystod o weithgareddau dysgu cyfunol, sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr sy'n hunan-ynysu gartref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020